Euog o gam-drin bachgen dwy oed

  • Cyhoeddwyd

Clywodd llys fod cwpwl wedi cadw eu mab dwy oed mewn cawell ci a rhoi'r llys enw 'plentyn y diafol' iddo.

Fe wnaeth y ddau o Gwmbrân bledio'n euog i gam-drin person dan 16.

Cafodd y ddau, ni ellir ei henwi oherwydd rhesymau cyfreithiol, ddedfryd o 26 wythnos o garchar wedi ei ohirio am ddwy flynedd.

Bydd yn rhaid iddynt hefyd wneud 200 awr o waith di-dâl.

Clywodd Llys y Goron Casnewydd fod yr heddlu wedi cynnal cyrch ar ôl galwad ffôn dienw.

Honnodd mam y plentyn ei fod ond yn defnyddio'r gawell yn yr ystafell wely wrth iddi wneud gwaith tŷ.

Dywedodd John Probert ar ran yr erlyniad fod y plentyn yn cael ei gloi yn y gawell ar wahanol adegau yn ystod y dydd.

Iselder

Honnodd y fam y byddai'r plentyn yn gwylio DVD's tra yn y gawell.

Clywodd y llys fod gan y bachgen gleisiau ar ei freichiau.

Hefyd byddai'n cael ei adael heb newid ei glwt.

Dywedodd Alex Greenwood, ar ran yr amddiffyniad, fod y fam yn dioddef o iselder.

Mae'r bachgen nawr yng ngofal rhieni maeth.