Cynllun swyddi £75m dros dair blynedd
- Cyhoeddwyd

Mae llywodrateh Cymru wedi cyhoeddi cynllun gwerth £75 miliwn i greu 12,000 o swyddi dros y tair blynedd nesaf.
Yn dechrau yn Ebrill 2012, mae Twf Swyddi Cymru yn cael ei anelu at bobl ddiwaith rhwng 16 a 24 oed.
Fe fyddan nhw'n gweithio am leiafswm o 25 awr yr wythnos ac yn cael eu talu'r isafswm cyflog o leiaf, gyda gobaith o swydd barhaol ar y diwedd.
Dywedodd mai nod y cynllun oedd cynorthwyo'r rhai sy'n barod i weithio ond sy'n methu dod o hyd i'r cam cyntaf i mewn i fyd gwaith.
Dywedodd y Gweinidog Addysg a Sgiliau, Leighton Andrews, y byddai cynllun peilot yn dechrau yn yr hydref cyn i gynllun ehangach ddechrau y flwyddyn nesaf.
Dywedodd: "Mae'r hinsawdd ariannol bresennol wedi arwain at grŵp cynyddol o bobl rhwng 16-24 oed sydd wedi disgyn allan o fyd gwaith neu addysg.
"Bydd Twf Swyddi Cymru yn galluogi unigolion i gael profiad gwaith o safon da er mwyn camu ymlaen i waith llawn amser neu brentisiaeth lle mae hynny'n briodol.
"Rydym yn rhagweld y bydd mwyafrif y swyddi yn cael eu creu yn y sector preifat, er mai yna hefyd gyfleoedd am rai o fewn y sectorau gwirfoddol a chyhoeddus.
'Swyddi gwyrdd'
"Bydd rhaid i fusnesau sydd am fod yn rhan o'r cynllun ddangos bod y swyddi yr ydym yn eu cefnogi yn rhai newydd."
Ychwanegodd Mr Andrews y byddai'r cynllun yn cynnwys ffrydiau penodol i dargedu graddedigion, busnesau bach iawn a swyddi gwyrdd.
Dywedodd: "Yn aml, mae busnesau bach iawn yn gyndyn o gyflogi am y tro cyntaf am eu bod ofn y risg o fiwrocratiaeth.
"Felly rydym wedi datblygu ffrwd i gynorthwyo'r sector hanfodol yma o'n heconomi i ddatblygu."
Straeon perthnasol
- 14 Medi 2011
- 13 Medi 2011
- 4 Awst 2011