Ad-drefnu addysg: Cyfnod ymgynghori
- Cyhoeddwyd

Mae'r sir yn bwriadu sefydlu ysgol gyfrwng Cymraeg yng Nghynwyd
Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi dechrau cyfnod o ymgynghori ynglŷn â chynlluniau i ad-drefnu ysgolion cynradd yn ne'r sir.
Y bwriad yw sefydlu ysgol gyfrwng Cymraeg ar gyfer ardaloedd Cynwyd a Llandrillo ac uno ysgolion presennol Cynwyd a Llandrillo.
Y bwriad yw ehangu Ysgol Maes Hyfryd, Cynwyd, a sefydlu ysgol newydd.
Fe fydd ysgolion presennol yn cael eu huno ym Medi 2012 ac yn parhau ar safleoedd ar wahân nes i ehangu Maes Hyfryd gael ei gwblhau.
Mae'r sir hefyd yn bwriadu cau Ysgol Gynradd Glyndyfrdwy ar Awst 31, 2012 cyn symud y plant i Ysgol y Gwernant, Llangollen.
Bydd y cyfnod ymgynghori yn para tan Tachwedd 13.
Os bydd unrhyw wrthwynebiad i'r cynllun, Llywodraeth Cymru fydd yn penderfynu'n derfynol.
Straeon perthnasol
- 19 Gorffennaf 2005
- 9 Tachwedd 2010