Rhieni'n trafod ysgol Gymraeg

Bydd llywodraethwyr a rhieni Ysgol Gynradd Aberteifi yn cwrdd nos Fercher i drafod dyfodol yr ysgol.

Ar hyn o bryd mae yna ffrrwd Gymraeg a ffrwd Saesneg yno - ond bwriad y cyngor yw ysgol gyfrwng Cymraeg.

Mae hynny wedi cythruddo rhai rhieni ac mae dros 1,000 wedi arwyddo deiseb.

Ar hyn o bryd mae rhieni yn gallu dewis a yw eu plant yn cael addysg yn bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg ar ôl y dosbarth derbyn.

Mewn llythyr gafodd ei anfon i rieni bythefnos yn ôl, fe amlinellwyd cynlluniau i gael gwared ar y ffrwd Saesneg yn y dyfodol.

Yn ôl y prifathro, Robert Jenkins, dim ond dau o blant allan o 30 Blwyddyn Un sydd wedi dewis y ffrwd Saesneg.

Mae'r gweddill yn y ffrwd Gymraeg.

Strategaeth iaith

Dywedodd y cyngor na fyddai unrhyw newidiadau yn cael eu gweithredu cyn Medi 2019

Ond un sy'n gwrthwynebu'r newidiadau yw Sharon Griffiths.

"Yn 2008 roedd Cyngor Ceredigion wedi darparu dogfen strategaeth iaith .... ond chawsom ni fel rhieni erioed gopi o'r ddogfen hon a dy'n ni erioed wedi bod yn rhan o unrhyw ymgynghoriad arno chwaith.

"Felly ar ôl ymchwilio i'r sefyllfa nawr, rwy wedi sylweddoli fod y ddogfen yma'n allweddol i'r newid hwn a bod 2008 yn ddechrau'r daith i newid hi'n ysgol Gymraeg.

"'Sen nhw wedi ymgynghori â ni neu hyd yn oed roi copi o'r ddogfen i ni bryd hynny, fe fydden ni wedi cael yr wybodaeth angenrheidiol i wneud penderfyniad fel rhieni ynglŷn â dyfodol addysg ein plant.

"Ry'n ni'n teimlo fel rhieni eu bod nhw wedi dwyn y dewis oddi wrthym ni."

'Cydnybyddiaeth'

Rhiant sy'n fodlon ar y newid sy'n cael ei gynnig yw Mark Ellis Jones.

"Ar hyn o bryd mae'r rhan fwya o blant yn cael eu hela i'r ffrwd Gymraeg.

"Fel wy'n deall, dau neu dri yn unig o blant sy wedi ca'l eu hela i'r ffrwd Saesneg eleni ym Mlwyddyn Un.

"Dyw rhein ddim yn newidiadau mewn gwirionedd, cydnabyddiaeth yw hi o'r hyn sy'n digwydd yn barod.

"Fel rhiant wy'n teimlo trueni mawr achos eu dadl nhw (rhai o'r rhieni) yw 'u bod nhw ishe cadw dewis. Wel, ma'n nhw'n 'neud y dewis dros eu plant eu hunain.

"Wy'n credu bod hwnna'n annheg i'r plant yn y dyfodol. Bydden nhw (y plant) yn gofyn i'r rhieni: 'Pam na ches i ddim cyfle i siarad Cymraeg, bod yn rhan o'r gymuned a gallu cystadlu am swyddi yn y dyfodol?'

"Felly wy ddim yn credu mai 'dewis' yw'r peth gore iddyn nhw seilio eu dadl arno fe."

Ymgynghoriad

Bydd cyfarfod yn cael ei gynnal yn yr ysgol am 6pm er mwyn i'r rhieni allu cwestiynu'r prifathro a'r llywodraethwyr.

Yn ôl Cyngor Ceredigion, bydd cyfnod o ymgynghori anffurfiol yn dilyn y cyfarfod.

Ysgol Gynradd Gymunedol Aberteifi yw'r ysgol olaf yn ardal de Ceredigion sy'n parhau i gynnig llif cyfrwng Saesneg ar lefel gynradd.

Yn ôl cyfrifiad 2001, roedd 45% o bobl Aberteifi yn medru darllen, ysgrifennu a siarad Cymraeg

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.