Cymraes yn canu cyn y gêm fawr yn Seland Newydd
- Cyhoeddwyd

Bydd cantores wnaeth adael Cymru 15 o flynyddoedd yn ôl, yn arwain torf yn Eden Park yn Auckland yn canu Hen Wlad fy Nhadau cyn y gêm rhwng Cymru a Ffrainc ddydd Sadwrn.
Daw Sharon Cotter yn wreiddiol o Lanboidy, Sir Gaerfyrddin.
Bydd hi'n canu o flaen torf o 70,000 yn Seland Newydd yn rownd gynderfynol Cwpan y Byd.
"Fe wnes i anfon CD demo bant i Undeb Rygbi Seland Newydd.
"Rhyw bum mis yn ôl wnes i glywed mai corau fydd yn canu anthemau ar ddechrau'r gystadleuaeth...ond unwaith y byddai'r semis yn dod byddwn i yn gallu canu.
"Mae lot o'n ffrindiau wedi cael sypreis fod Cymru wedi mynd mor bell, a dwi'n cael cyfle i ganu.
Perfformio
"Roedd lot o ffrindiau yn meddwl doedd dim gobaith ond mae'r tîm wedi profi nhw'n anghywir."
Fe symudodd Sharon o Gymru ar ôl cwrdd â'i gŵr oedd draw o Seland Newydd yn ymweld â ffrindiau yn San Clêr.
Mae ei rhieni, Dorian ac Ivy Phillips, yn dal i redeg busnes adeiladu yn Llanboidy.
Nid dyma'r tro cynta iddi ganu'r anthem mewn gêm rygbi.
Bu'r fam i dri o hogiau yn perfformio yn y gêm brawf rhwng Cymru a Seland Newydd yn Hamilton ym mis Mehefin y llynedd.
"Ond mae'r safon wedi codi unwaith eto," meddai.
"Dwi heb gael lot o gwsg a heb fwyta lot ers Sadwrn diwetha.
"Mae 'na le i 70,000 yn Eden Park.
"Y peth pwysig yw peidio bod yn rhy emosiynol a chofio anadlu a chofio canu."
Bydd Sharon yn cael cyfle i ymarfer gyda chôr o 32 o leisiau bnawn dydd Gwener ac yna unwaith eto fore Sadwrn cyn y gêm.
Bydd y gêm rhwng Cymru a Ffrainc yn dechrau am 9am (amser Cymru) ac fe fydd sylwebaeth lawn ar BBC Radio Cymru.