Cynnydd mawr mewn diweithdra yng Nghymru

Canolfan Waith Image copyright PA
Image caption Mae mwy o bobl yn ddiwaith a mwy yn hawlio Lwfans Chwilio am Waith

Roedd cynnydd mawr mewn diweithdra yng Nghymru, yn ôl yr ystadegau diweddaraf gyhoeddwyd fore Mercher.

Yn y tri mis hyd at ddiwedd Awst roedd 131,000 o bobl heb waith yng Nghymru - 16,000 yn uwch na'r chwarter blaenorol a 13,000 yn uwch dros y flwyddyn gron.

Mae lefel diweithdra yng Nghymru bellach yn 9%.

Yn fwy penodol, mae nifer y bobl sy'n hawlio Lwfans Chwilio am Waith 800 yn uwch yn ystod mis Medi sy'n golygu cyfanswm o 78,300, 6,500 yn uwch dros y flwyddyn gyfan.

Mae nifer y bobl sydd mewn gwaith yng Nghymru yn 1,318,000, 26,000 yn llai na'r chwarter blaenorol a 9,000 yn llai yn ystod 2011.

'Siomedig'

Dywedodd y Gweinidog dros Fusnes a Menter, Edwina Hart: "Mae ystadegau heddiw yn siomedig tu hwnt ac yn adlewyrchu pa mor fregus yw'r economi fyd eang.

"Er mai cyfrifoldeb llywodraeth y DU yw'r lefel facro-economaidd, rydym yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi busnesau yng Nghymru.

"Bydd ein cynllun newydd gwerth £75 miliwn - Twf Swyddi Cymru - yn creu 4,000 o swyddi bob blwyddyn am dair blynedd i bobl ifanc ar draws Cymru ac mae ein rhaglen Addasu yn targedu pobl sydd wedi colli swyddi yn y sector gyhoeddus, yn cynnig help iddyn nhw ail-hyfforddi a dod o hyd i swydd."

Yn ôl Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan: "Mae'r ystadegau yn sicr yn siomedig, ond mae'r llywodraeth yn benderfynol i fynd i'r afael â'r sefyllfa.

"Dyna pam yr ydym wedi lansio academïau yn seiliedig ar sectorau ar hyd a lled y DU a fydd yn cynnig cyfuniad o hyfforddiant, profiad gwaith a sicrwydd am gyfweliad swydd i hyd at 50,000 o bobl dros y ddwy flynedd nesaf".

'Gwaethygu'n gynt'

Yn ôl llefarydd Plaid Cymru ar yr economi, Alun Ffred Jones AC: "Mae'n amlwg bod y sefyllfa yng Nghymru'n gwaethygu'n gynt na mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Gyfunol. Mae'r cynnydd yn nifer y bobl ifainc sy'n ddi-waith, yn enwedig, yn frawychus.

"Mae angen gwario ar gynlluniau adeiladu i roi hwb i'r economi a chreu gwaith ym mhob rhan o Gymru.

"Mae'r argyfwng economaidd yma yn cael effaith ar bobl yma yng Nghymru rŵan - ond eto mae Llywodraeth Lafur Cymru'n dal i oedi cyn gweithredu. Does dim modd i hyn barhau - ac mae'r ffigyrau hyn yn dangos pam."

Straeon perthnasol