Cefnogaeth i apêl i brynu goleudy

Goleudy Ynys Sgogwm Image copyright Other
Image caption Mae'r tir o amgylch y goleudy yn gartref i nifer o adar prin

Mae apêl i godi £250,000 er mwyn prynu goleudy Ynys Sgogwm ger arfordir Penfro wedi cael cefnogaeth aruthrol, yn ôl y trefnwyr.

Dywed Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru eu bod eisoes wedi derbyn dros £100,000 diolch i gefnogaeth yn lleol a gan rai o aelodau'r ymddiriedolaeth.

Bwriad yr Ymddiriedolaeth yw prynu'r goleudy a'r tir o amgylch gan mai yma y mae'r boblogaeth fwyaf dwys o adar Pal Manaw (Manx Shearwater) yn y byd.

Mae'r arian sydd eisoes wedi dod i law yn debyg o fedru talu am brynu rhan helaeth o'r tir a gwneud gwaith adnewyddu sydd angen ei wneud ar adeiladau'r ynys.

Llygod mawr

Dywedodd warden yr ynys, Jerry Gillham: "Fe fyddwn i'n poeni petai rhywun arall yn prynu'r goleudy a'r tir rhag ofn i niwed gael ei wneud i dyllau nythu eithriadol o wanllyd sydd yno.

"Yn waeth na hynny, fe allai rhywun gludo llygod mawr i'r ynys yn ddamweiniol, ac fe fyddai hynny'n gwneud difrod mawr i adar sy'n nythu ar lawr sy'n ffynnu ar draws yr ynys - adar fel y pal, pedryn drycin a pal Manaw."

Cafodd yr apêl hwb gan rodd o ystâd y diweddar Ken Price - aelod o'r Ymddiriedolaeth a fu farw'n ddiweddar - a adawodd swm sylweddol i'r apêl.

Os fydd yr apêl yn llwyddiannus, mae'n fwriad gan yr ymddiriedolaeth adnewyddu'r goleudy a chaniatáu i bobl dreulio noson ynddo yn y dyfodol.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.