Cyfreithiau Cymru gyfwerth â rhai'r DU

  • Cyhoeddwyd
SeneddFfynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o’r llun,
Daeth y dyfarniad yn sgil her gan gwmni yswiriant AXA

Mae'r Goruchaf Lys wedi dyfarnu bod cyfreithiau'r Cynulliad Cenedlaethol a Senedd yr Alban gyfwerth a chyfreithiau San Steffan.

Daeth y penderfyniad wedi i gwmni yswiriant AXA herio cyfraith basiwyd gan Senedd yr Alban yn ymwneud â hawliau pobl sy'n dioddef oherwydd asbestos a'u hawl i fynnu iawndal.

Mae Llywodraeth Cymru wedi croesawu'r penderfyniad, gan ddweud fod hon yn gydnabyddiaeth y gellid herio cyfreithiau'r Cynulliad dim ond ar yr un sail â herio cyfreithiau Llywodraeth y DU.

Roedd y cwmni yswiriant wedi honni y dylid gwrthdroi cyfraith yr Alban yn yr achos hwn oherwydd defnydd "afresymol a mympwyol" o rym Senedd yr Alban.

Doedd dim modd herio cyfraith debyg Llywodraeth y DU ar y sail yma ac roedd rhaid i'r llys felly benderfynu a ddylai cyfreithiau'r sefydliadau datganoledig yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon gael yr un statws.

Ymyrryd

Roedd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi ymyrryd yn yr apêl i gefnogi safbwynt yr Alban gan y byddai unrhyw benderfyniad yn effeithio ar Gymru hefyd.

Dywedodd y Barnwr yr Arglwydd Hope yn y Goruchaf Lys ei fod yn "fater o bwysigrwydd cyfansoddiadol mawr" penderfynu a ddylai cyfreithiau datganoledig gael yr un statws â Llywodraeth y DU.

Ychwanegodd ei gyd-farnwr, yr Arglwydd Reed: "Creu deddfau gan gorff sydd wedi ei ethol yn ddemocrataidd yw patrwm gweithgarwch gwleidyddol, ac mae rhesymoldeb y penderfyniadau sy'n deillio o hynny yn anorfod yn fater o farn wleidyddol.

"Yn fy marn i, ni fyddai'n briodol yn gyfansoddiadol i lysoedd adolygu penderfyniadau tebyg ar sail afresymoldeb.

"Byddai adolygiad o'r fath ddim yn cydnabod bod gan lysoedd a chyrff deddfu rôl benodol o fewn ein cyfansoddiad, ac y dylai'r ddau fod yn ofalus i barchu cylch gweithredu ei gilydd."

Mae Cwnsler Cyffredinol Cymru, Theodore Huckle QC, wedi rhoi croeso cynnes iawn i'r dyfarniad.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol