Grant £34m i ad-drefnu addysg yn ardal Penarth

Athrawes a disgybl Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Bydd y cynllun yn rhoi cyfle i athrawon a disgyblion ganfod 'dulliau arloesol' o ddysgu

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi derbyn grant gwerth £34 miliwn gan Lywodraeth Cymru i dalu am ran o gynllun ad-drefnu ysgolion ym Mhenarth.

Mae'r cyngor yn bwriadu creu Cymuned Dysg Penarth, cynllun gwerth £48 miliwn a fydd yn cynnwys ysgol uwchradd ar yr un safle ag ysgol bydd yn darparu addysg a gofal i ddisgyblion ag anabledd dysgu.

Dywed y cyngor y bydd y cynllun arfaethedig yn darparu cyfleusterau hyblyg gan roi cyfle i athrawon a disgyblion ganfod dulliau arloesol o ddysgu.

Bydd yr adeiladau newydd yn cymryd lle adeiladau Ysgol Sant Cyres, Ysgol Arbennig Erw'r Delyn, Ysgol Arbennig Maes Dyfan ac Ysgol Arbennig Ashgrove.

'Cynllun arloesol'

Y cam nesaf i'r cyngor yw sicrhau cymeradwyaeth Llywodraeth Cymru i ad-drefnu'r ysgolion.

Bydd cyfnod ymgynghori yn yr ardal yn dechrau ar Hydref 17 ac yn gorffen ar Dachwedd 17.

Yna bydd 'na broses statudol a fydd yn disgwyl iddi bara tan haf 2012.

Y gobaith yw y bydd y gwaith adeiladu yn dechrau ar y safle erbyn mis Hydref 2012.

Dywedodd arweinydd Cyngor Bro Morgannwg, y Cynghorydd Gordon Kemp, eu bod yn "hapus iawn fod ein cynllun arloesol i sefydlu Cymuned Dysg Penarth wedi ei gymeradwyo".

"Rydyn ni'n gobeithio y bydd y cyfleuster addysg hwn o fudd mawr i ddisgyblion, staff ac aelodau o'r gymuned."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.