Adfer pont hanesyddol ym Mlaenafon
- Cyhoeddwyd

Mae Cyngor Torfaen wedi datgan y byddan nhw'n gwneud gwaith adnewyddu i bont o bwysigrwydd hanesyddol ym Mlaenafon.
Mae'r cyngor wedi sicrhau cyllid ar gyfer y prosiect gan Cadw ac, mewn egwyddor, gan raglen Parc Rhanbarthol y Cymoedd i atgyweirio Bont Aaron Brute ym Mlaenafon.
Y gred yw y bydd y gwaith adnewyddu yn costio £340,000.
Bydd cwmni Capita Symonds yn symud y bont o'i safle presennol cyn gwneud y gwaith adnewyddu bydd yn cynnwys ail-adeiladu'r pentan pont cyn ei hail osod.
Heneb
Bydd y cyhoedd yn gallu cerdded ar hyd y bont a'r gobaith yw y bydd yn hwb o ran atyniad i ymwelwyr i Flaenafon.
Cafodd y bont ei hadeiladu rhywbryd rhwng 1820 a 1845 a chafodd ei llunio o dri bwa haearn bwrw wedi'i gysylltu â haenellau haearn ar frig y bont a bariau clymu rhwng pob bwa.
Mae'r bont yn un o'r esiamplau cynharaf o'i bath sydd yn dal yn bodoli yn Ne Cymru.
Ym 1994 cofrestrodd Cadw'r bont yn heneb a chafodd ei chau i'r cyhoedd yn 2003 oherwydd pryderon y gallai gwympo.
Cafodd y bont ei hasesu ym mis Mawrth 2011 a dywedodd yr adroddiad fod rhannau ohoni wedi dirywio'n arw yn ystod y blynyddoedd diwethaf a'u bod mewn peryg o gwympo.
Y gobaith yw y bydd y gwaith adnewyddu yn cael ei gwblhau erbyn dechrau'r haf y flwyddyn nesaf.
Dywedodd arweinydd Cyngor Torfaen, y Cynghorydd Bob Wellington: "Byddwn ni'n gweithio gyda'n partneriaid i sicrhau bydd y gwaith atgyweirio yn cael ei wneud yn ofalus."
Straeon perthnasol
- 9 Chwefror 2008
- 30 Mai 2011
- 19 Awst 2007