Oedi cyn darparu gofal i ddyn ag anafiadau ymennydd

  • Cyhoeddwyd

Pedair blynedd wedi i fachgen 16 oed o Sir y Fflint gael anafiadau difrifol i'w ymennydd - wedi i wm cnoi fynd yn sownd yn ei wddw - mae wedi cael dod adre.

Fe aeth y gwm cnoi yn sownd yng ngwddw Rhys Thomas wrth iddo gysgu.

Mewn cyfweliad arbennig ar gyfer BBC Cymru mae ei deulu'n son am eu brwydr i sicrhau gofal iddo yn y cartref.

Maen nhw'n feirniadol fod y broses wedi cymryd cyhyd ac mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi ymddiheuro am hynny.

Mae Rhys Thomas bellach yn 20 oed a dydi o ddim yn gallu siarad, gweld, na symud ar ôl i'r gwm cnoi fynd yn sownd yn ei bibell wynt.

Fe ddigwyddodd hyn noson cyn angladd ei nain yn 2007.

Ymdrechu

Cafodd drawiad ar y galon o ganlyniad posib i ddiffyg ocsigen.

Ers y digwyddiad mae wedi derbyn gofal mewn sawl ysbyty a chartrefi gofal.

Mae ei deulu wedi ymgyrchu i'w gael adref yn y cartref teuluol yn Nhreffynnon.

Erbyn hyn mae wedi cael dod adref ac yn byw mewn estyniad pwrpasol i'r tŷ ac yn derbyn gofal 24 awr y dydd.

Yn y cyfweliad arbennig dywed ei dad, Graham Thomas, eu bod wedi wynebu "rhwystredigaeth sylweddol" wrth geisio gwneud trefniadau i gael Rhys adref.

Ffynhonnell y llun, BBC news grab
Disgrifiad o’r llun,
Y teulu cyn y digwyddiad trasig

"Mae'r system yn gweithio mewn modd y mae'n eich methu chi," meddai.

"Mae'n bwysig nad ydi bobl yn derbyn na gan yr awdurdodau ac yn eu herio, hyd yn oed os yw'n cymryd blynyddoedd.

"Nid mater o ennill neu golli yw hyn, ond mater o gael y maen i'r wal a chael eich dymuniad."

Eglurodd bod 'na oedi wedi bod sawl tro wrth symud Rhys a hynny heb rybudd.

Mae Mr Thomas yn gobeithio bod gwersi wedi eu dysgu ac na fydd rhaid i deulu arall wynebu'r un artaith.

Mewn ymateb dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, eu bod yn ymddiheuro bod y broses wedi cymryd cymaint o amser i gael Rhys adref a hynny "er gwaetha ymdrechion niferus gan deulu Rhys, staff y bwrdd iechyd ac asiantaethau eraill".

"Mae cynllunio anfon Rhys adref i dderbyn gofal wedi bod yn broses hir o ganlyniad i gymhlethdodau ei ofal.

"Roedd hyn yn golygu bod angen recriwtio staff i ofalu am Rhys yn y cartref a oedd wedyn yn gorfod derbyn gofal arbenigol.

"Mae'r Bwrdd Iechyd wedi gweithio yn galed gyda theulu Rhys ac eraill i sicrhau bod y staff yn rhan o'r pecyn gofal cymunedol i Rhys.

"Rydym wedi dysgu gwersi pwysig sut i gyflymu'r broses o dan amgylchiadau unigryw."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol