Y Ddraig Goch uwchben Downing Street
- Cyhoeddwyd

Fe fydd rhif 10 Downing Street yn mynd yn groes i draddodiad fore Sadwrn drwy chwifio baner y Ddraig Goch o'r mast.
Yn ystod sesiwn cwestiynau Cymreig yn San Steffan fore Mercher, gofynnodd Aelod Seneddol Gorllewin Caerdydd, Kevin Brennan, i Ysgrifennydd Cymru os fyddai'n pwyso ar y Prif Weinidog i wneud hynny er mwyn cydnabod camp Cymru wrth gyrraedd rownd gynderfynol Cwpan Rygbi'r Byd yn Seland Newydd.
Dywedodd Mr Brennan wrth Cheryl Gillan: "Pan fydd y Prif Weinidog yn eistedd wrth eich ochr yn ddiweddarach, a wnewch chi ofyn iddo osod baner Cymru uwchben rhif 10 Downing Street fel y gwnaeth gyda Chroes San Siôr ar gyfer tîm pêl-droed Lloegr yn ystod Cwpan Y Byd?"
Atebodd Mrs Gillan: "Gallaf ategu'r argymhelliad a chroeso.
"Dwn i ddim a fydd yr awdurdodau yn medru chwifio'r faner ai peidio."
Ychwanegodd y byddai'r Ddraig Goch yn cyhwfan uwchben Swyddfa Cymru yn Nhŷ Gwydr yn Whitehall.
"Un o'r hysbysebion gorau i Gymru yw ein tîm rygbi gwych, ac rydym yn dymuno'r gorau iddyn nhw ar gyfer eu gem dros y penwythnos," ychwanegodd.
Erbyn prynhawn Mercher, fe gadarnhaodd Downing Street ar eu gwefan Twitter y byddai'r Ddraig Goch yn chwifio o fast rhif 10, gan ychwanegu fod Mr Cameron hefyd yn dymuno'r gorau i Gymru yn erbyn Ffrainc.