Tesco yn ganolbwynt datblygiad yn Aberystwyth

  • Cyhoeddwyd
Bag TescoFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,
Mae disgwyl i'r gwaith gael ei gwblhau erbyn 2014

Bydd archfarchnad Tesco yn rhan allweddol o gynllun gwerth miliynau o bunnoedd i ddatblygu canol Aberystwyth, gan greu mwy na 200 o swyddi.

Mae Cyngor Ceredigion wedi dweud mai cwmni Chelverton Deeley Freed sy'n cael ei ffafrio'n l ddatblygwr ar gyfer y cynllun sy'n cynnwys maes parcio tanddaearol.

Bydd yr archfarchnad yn cynnwys 25,000 o droedfeddi sgwâr ar gyfer gwerthu bwyd a 12,000 o droedfeddi sgwâr ar gyfer eitemau eraill.

Yn ogystal â Tesco, bydd tair uned manwerthu ychwanegol yn cael eu codi yng Nghoedlan y Parc.

Yn ôl y cyngor, bydd y gwaith yn cael ei orffen erbyn canol 2014.

'Cyfleoedd'

Dywedodd y Cynghorydd Keith Evans, arweinydd y cyngor sir, fod y broses gynllunio "wedi sicrhau canlyniad llwyddiannus er lles Aberystwyth, yn enwedig canol y dref.

"Wedi dweud hynny, mae rhagor o gyfleoedd i sicrhau datblygiadau eraill er lles y dref ac mae swyddogion y cyngor wrthi'n ymchwilio ar hyn o bryd".

Roedd rhai wedi gwrthwynebu'r datblygiad.

Ym mis Medi arwyddodd chwe chynghorydd sir gynnig yn galw am fwy o ymchwilio wedi i gabinet y cyngor gymeradwyo'r datblygwr.

Ond pleidleisiodd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Datblygu Economaidd yr awdurdod o blaid penderfyniad y cabinet.

200 o swyddi

Mae'r cynllun yn cynnwys saith uned breswyl a 500 o lefydd parcio.

Bydd 134 o'r llefydd parcio yng ngofal y cyngor a'r gweddill yng ngofal Tesco ac mae'r datblygiad yn golygu cynnydd o bron 100% yn nifer y llefydd parcio yn y dref.

Dywedodd y datblygwyr y byddai dros 200 o swyddi yn cael eu creu o fewn 12 mis i gychwyn y gwaith.

Mae'r cyngor wedi honni y bydd rhwng £1.6m a £3.5m o drosiant terfynol ychwanegol y flwyddyn yn mynd i fusnesau canol y dref.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol