Pryder ar ôl i gwmni fynd i'r wal
- Cyhoeddwyd

Mae 'na bryderon am swyddi yn y gogledd am fod cwmni Linford o Ganolbarth Lloegr wedi mynd i'r wal.
Mae swyddfeydd gan y cwmni yn y gogledd, ac mae cwmni teledu o Gaernarfon wedi cadarnhau wrth y BBC bod y gwaith ar eu canolfan newydd wedi dod i ben yn ddisymwth fore Mercher.
Er mai yn Lloegr y bydd mwyafrif y diswyddiadau ar ôl cwymp cwmni Linford, fe fydd yr effaith i'w deimlo'n glir yng Nghymru hefyd.
Mae'r cwmni wedi bod yn weithgar iawn yn y canolbarth a'r gogledd yn benodol.
Roedden nhw'n gyfrifol am y gwaith cynnal a chadw ar y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth, yn ogystal â gwaith yn oriel Mostyn yn Llandudno ac ar ganolfannau preswyl yn Shotton yn Sir y Fflint.
Mae'r 12 o weithwyr sy gan y cwmni yn eu swyddfa ym Mhenarlâg yn Sir y Fflint yn colli eu swyddi.
Mae swyddfa ganddyn nhw ar stad y Faenol, ar gyrion Bangor, hefyd. Yno, ar y cyd â chwmni Vaynol Conservation, maen nhw wedi bod yn gyfrifol am hyfforddi dros 800 o grefftwyr ar draws Cymru.
'Sioc'
Mae'r cyhoeddiad wedi cael cryn effaith ar gwmni teledu Cwmni Da yng Nghaernarfon hefyd. Roedd cwmni Linford wrthi, tan fore Mercher, yn adnewyddu adeilad Y Goleuad yn Noc Fictoria.
Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr cwmni Da, Dylan Huws, wrth BBC Radio Cymru:
"Cawson ni alwad ffôn fore ddoe i adael i ni wybod be oedd yn digwydd.
"Roedden ni'n credu bod y grŵp yn cael problemau, ond ddim mor ddifrifol â hyn.
"Maen nhw wedi bod ar y safle am wythnosau ac roedd y gwaith yn symud ymlaen.
"Roedd yn dipyn o sioc".
Mae'n ymddangos bod dyledion sylweddol gan gwmni Linford - maen nhw wedi dweud wrth y BBC mai'r amodau anodd sy'n wynebu'r diwydiant yn gyffredinol, ynghyd â dyledion sylweddol, oedd wrth wraidd y penderfyniad i ddod â'r cwmni i ben.