Gobaith am 20,000 o swyddi erbyn 2020
- Cyhoeddwyd

Mae astudiaeth yn honni y gall 20,000 o swyddi gael eu creu dros ddeng mlynedd os fydd cymorth y llywodraeth i'r diwydiant twriastiaeth yn parhau.
Dangosodd arolwg fod bron un o bob pum person yn siroedd Gwynedd a Chonwy yn dibynnu ar westyau, tai bwyta ac arlwyo am eu gwaith bob dydd.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y sector yn flaenoriaeth ac yn allweddol i dwf swyddi.
Mae Cymdeithas Lletygarwch Prydain (BHA) yn honni fod astudiaeth sy'n seiliedig ar ffigyrau o 2010 yn dangos pwysigrwydd lletyau a thai bwyta i economi Cymru ymhob ardal.
Mae'r ymchwil gan Oxford Economics wedi canfod:
- Mae'r sector yn cyflogi mwy na 113,000, a 56,000 ychwanegol yn anuniongyrchol, sy'n cyfateb i 12.5% o'r gweithlu;
- Mae gan y diwydiant drosiant o £2.9 biliwn yng Nghymru;
- Mae'n cyfrannu £1.4 biliwn i economi Cymru mewn cyflogau ac elw;
- Caerdydd ac Abertawe sy'n cyflogi'r nifer fwyaf o bobl yn y sector, gyda Chaerdydd yn yr 20 uchaf drwy'r DU;
- Siroedd Gwynedd, Conwy, Penfro, Môn a Mynwy sy'n fwyaf dibynnol ar letygarwch am gyflogaeth.
Ers y flwyddyn 2000, mae 52 gwesty wedi agor yng Nghymru - mae hynny'n cyfateb i 3,800 o ystafelloedd - ac mae'r BHA yn dadlau fod y diwydiant mewn lle da i ehangu ymhellach.
Dywedodd cadeirydd y gymdeithas yng Nghymru, Andrew Evans: "Mae'r adroddiad yma yn dangos y cyfraniad anferth y mae'r sector lletygarwch yn ei wneud i economi Cymru.
"Mae ein haelodau yn aml yn fusnesau bach sydd yn medru ymateb yn gyflym ac yn greadigol, gan greu swyddi sy'n gynaliadwy.
"Mae gennym atebion i gyrraedd targedau creu swyddi, ac nid swyddi bach yn unig - mae'r rhain yn mynd drwy'r sector i gynnwys swyddi arbenigol iawn a swyddi uchel hefyd."
Ychwanegodd Mr Evans y byddai buddsoddi yn y sector lletygarwch yn cynorthwyo diwydiannau eraill fel adeiladu ac amaethyddiaeth.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd twristiaeth, a lletygarwch, i'r economi yng Nghymru.
"Roedd y penderfyniad i symud cyfrifoldeb am dwristiaeth i'r gweinidog busnes yn gydnabyddiaeth glir o'r cyfraniad allweddol y mae twristiaeth yn ei wneud i lewyrch arfaethedig bob rhan o Gymru."
Ychwanegodd y llefarydd fod y gweinidog hefyd wedi dynodi twristiaeth yn un o dri sector sy'n flaenoriaeth i economi Cymru.
Byddai cyllideb o dros £15 miliwn i Croeso Cymru yn eu galluogi i ganolbwyntio ar gynyddu nifer yr ymwelwyr a'u profiadau yma, a hefyd i farchnata Cymru ar draws gweddill y DU a dramor. Mae'r diwydiant croeso wedi rhybuddio fod rhaid gwarchod y sector twristiaeth yn erbyn toriadau i'w gyllideb os ydyw am barhau i greu swyddi.
Straeon perthnasol
- 12 Ionawr 2011