Labordy mellt mwyaf blaenllaw'r DU i Gaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Labordy Mellt Morgan-BottiFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Bydd y labordy ym Mhrifysgol Caerdydd y mwyaf blaenllaw yn y DU

Bydd Prifysgol Caerdydd yn agor adnodd ymchwil newydd - Labordy Mellt Morgan-Botti - fydd yn un o labordai mwyaf blaenllaw'r DU.

Cafodd y labordy yn Ysgol Beirianneg y brifysgol ei enwi ar ôl cyn-Brif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan, a Dr Jean Botti, Prif Swyddog Technegol cwmni European Aeronautic Defence and Space (EADS), gan fod y ddau wedi bod yn weithredol wrth sefydlu'r labordy.

Bydd yr adnodd yn cynnal profion ar strwythur awyrennau sy'n defnyddio adeiladaeth gyfansawdd yn y corff - mae hwn yn gryf ond ysgafn sy'n gwella effeithlonrwydd yr awyren.

Bydd yr agoriad swyddogol ddydd Iau.

Pwrpas y profion yw gweld sut y mae'r rhain yn ymateb i fellt.

Bydd labordy Morgan-Botti yn medru cynhyrchu mellten artiffisial o hyd at 200,000 Amp.

Diogelwch

O'i osod mewn cyd-destun, mae mellten gyffredin yn 32,000 Amp, a'r cyfanswm o bŵer sy'n ddigon i gyflenwi tŷ cyffredin yn 100 Amp.

Cafodd y labordy ei sefydlu diolch i oddeutu £1.6 miliwn gan Adran Arloesi EADS a Llywodraeth Cymru, a dyma fydd canolfan profi mellt mwyaf blaengar y DU.

"Bydd y labordy yn cynhyrchu mellt o dan reolaeth a fydd yn gwella ein dealltwriaeth o effaith mellt ar ddeunyddiau ac yn sicrhau y bydd awyrennau'r dyfodol mor ddiogel ag y maen nhw heddiw," meddai Rheolwr Prosiect y Labordy Mellt, Philip Leichauer.

Ychwanegodd yr Athro Manu Haddad o Ysgol Beirianneg Caerdydd, y bydd y labordy newydd yn caniatáu i Brifysgol Caerdydd weithio'n agos gyda gwneuthurwyr a defnyddwyr adeiladaeth gyfansawdd a hynny "i wneud y gorau o nodweddion trydanol y deunydd a chynllun y strwythur, ac yn y pen draw yn cyfrannu at ddatblygu awyrennau mwy diogel a charedig i'r amgylchedd".

'Talent'

Bydd y ffatri newydd ar safle cwmni Airbus ym Mrychdyn, Sir Y Fflint, yn cynhyrchu adenydd wedi eu gwneud o adeiladaeth gyfansawdd.

"Rhaid pwysleisio pwysigrwydd yr ymchwil yn y labordy newydd i hedfan sifil," meddai Dr Jean Botti.

"Mae ehangu ein hymrwymiad i'r bartneriaeth gyda Phrifysgol Caerdydd yn garreg filltir arall wrth weithio gyda'r dalent technegol aruthrol sy'n bodoli ar draws y DU."

Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones: "Rwyf wrth fy modd fod llywodraeth Cymru yn medru cefnogi'r adnodd unigryw yma - yr unig un o'i fath yn y DU i ddarparu efelychiad mellt ar gyfer ymchwil a phrofion.

"Mae hwn yn ganolfan blaengar i'r diwydiant awyrennau yng Nghymru, ac fe fydd yn denu diwydiannau sy'n datblygu adeiladaeth gyfansawdd ynghyd â buddsoddiad ymchwil i'r wlad."

Bydd Mr Jones a'i ragflaenydd Rhodri Morgan yn bresennol wrth lansio'r labordy newydd fore Iau yng Nghaerdydd.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol