Tair lori wedi eu dwyn: Arestio
- Cyhoeddwyd
Mae dau ddyn wedi cael eu harestio yn Swydd Gaer ar ôl i dair lori gael eu dwyn o gwmni cludo nwyddau ym Mhorthmadog nos Fercher.
Cafodd un lori ei hatal yn Swydd Gaer a chafodd dau ddyn eu harestio.
Daethpwyd o hyd i'r ddwy lori arall wedi eu gadael mewn cae ger Ince, Swydd Gaer.
Mae Heddlu'r Gogledd yn cydweithio gyda Heddlu Swydd Gaer wrth i ymholiadau barhau.