Bywyd newydd i hen bwerdy
- Cyhoeddwyd

Mae pwerdy sy'n adeilad rhestredig Gradd II ar safle pwll glo yn un o nifer adeiladau hanesyddol fydd yn derbyn cyfanswm o £400,000 er mwyn eu hadfer.
Mae'r pwerdy, ar safle pwll glo Llwynypia, Rhondda Cynon Taf, yn derbyn grant o £75,000 er mwyn adfer y to, y waliau a'r ffenestri metel ac er mwyn ailadeiladu parapetau'r talcen.
Ymhlith y grantiau eraill y mae:
- £64,000 i wneud gwaith atgyweirio mewnol ac allanol ar Eglwys Sant Cynog, Merthyr Cynog, Aberhonddu
- £49,720 i adfer y tŵr yn Eglwys Sant Cynin, Llangynin, Sir Gaerfyrddin
- £39,500 i wneud gwaith atgyweirio'n cynnwys uwchraddio'r gwaith plwm, atgyweirio'r rendrad, uwchraddio'r gwaith coed a gwaith atgyweirio arbenigol ar y ffenestri gwydr lliw yn Eglwys Gatholig Mair a Sant Mihangel, Llan-arth, Sir Fynwy
- £16,800 i ail-bwyntio tŵr eglwys Crist, Bryn-y-Maen, Bae Colwyn.
Mae'r grantiau hyn, a roddwyd gan Lywodraeth Cymru, yn amrywio o £11,200 i £75,000, ac fe'u clustnodwyd ar gyfer gwaith atgyweirio hanfodol ar yr adeiladau hyn, yn ogystal â gwaith i'w hadfer.
Dywedodd Huw Lewis, y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth: "Mae'n bleser cyhoeddi bod yr adeiladau hyn wedi cael arian oddi wrth Cadw, gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru.
"Bydd y grantiau'n sicrhau bod rhai o'n hadeiladau pwysicaf yn cael eu cynnal a'u cadw er budd y cenedlaethau a ddêl."