Gobaith neu hyder i'r Cymry?
- Cyhoeddwyd

Ar ddiwedd blynyddoedd llwm i gefnogwyr rygbi a phêl-droed yng Nghymru, mae bore Sadwrn wedi rhoi esgus i bobl fynd dros ben llestri.
Do fe ddaeth Camp Lawn yn 2005 a 2008 i'r tîm rygbi, ond ar lwyfan byd-eang prin iawn yw'r cyfleoedd i ddathlu, ac mae'r rownd gynderfynol wedi achosi cyffro.
Fe ddaeth llwyddiant mewn campau eraill, ond dyw gorchestion unigolion fel Joe Calzaghe a Nathan Cleverley (bocsio), Nicole Cooke a Geraint Thomas (seiclo) a Mark Williams (snwcer) ddim wedi denu'r fath sylw.
Fe ddenodd y Cwpan Ryder gryn dipyn o sylw'r byd golff i Gymru, ond doedd yr un Cymro yn y tîm.
Does dim dwywaith mai dim ond pêl-droed a rygbi sy'n debyg o greu'r fath gyffro.
Er i fechgyn Gary Speed ddechrau dangos eu doniau'n ddiweddar, mae'n debyg mai yn y dyfodol y gallwn ddathlu campau'r tîm pêl-droed.
Llawn gobaith
Felly dyma ganolbwyntio ar rygbi.
Dro ar ôl tro, mae Cymru wedi gadael am Gwpan y Byd yn llawn gobaith, ond yna'n dychwelyd yn waglaw bob tro, ac yn aml wedi colli rhywfaint o hunan barch yn y broses.
Roedd ambell un wedi darogan llwyddiant y tro hwn - fel bob tro arall - ond faint mewn gwirionedd oedd yn credu y gallai tîm Warren Gatland gyrraedd pedwar olaf y gystadleuaeth?
Nid yn unig hynny, ond mae'r tîm yn ffefrynnau ar bapur i fynd un cam ymhellach a chyrraedd y rownd derfynol.
Mae sawl un yn cofio Cymru'n cyrraedd y rownd gynderfynol yn y Cwpan Byd cyntaf - hefyd yn Seland Newydd - yn 1987, ond ar y diwrnod hwnnw, doedd neb wir yn credu y gallai Cymru guro'r Crysau Duon.
Roedd y sgôr o 49-6 i'r tîm cartref yn gadarnhad nad oedd gan neb hawl disgwyl gwell, a gwobr gysur annisgwyl efallai oedd curo Awstralia i orffen yn y trydydd safle.
Disglair
Ond ar drothwy'r rownd gynderfynol y tro hwn, mae Cymru yn bedwerydd ar restr detholion y byd rygbi gyda Ffrainc yn bumed.
Ar ôl colli'r gêm agoriadol o bwynt yn unig i Dde Affrica, mae Cymru wedi ennill pob gêm gan arddangos rygbi disglair wrth wneud hynny.
Ar y llaw arall, fe gollodd Ffrainc ddwy gêm yn eu grŵp, gan gynnwys un i Tonga, ac mae hanesion o ffraeo ac anghytuno o fewn y garfan a'r hyfforddwyr yn frith.
Ond sawl gwaith y mae'r Ffrancwyr wedi difetha gobeithion y Cymry?
Er hynny, mae nifer o resymau i gadw ffydd.
Y tro hwn fe fydd dros 50,000 o bobl yn gwylio'r gêm ar y sgrin yn Stadiwm y Mileniwm, a miloedd ar filoedd yn fwy yn gwylio yn eu cartrefi ac mewn clybiau a thafarnau ledled y wlad.
Y tro hwn fe fydd nifer fawr o'r cefnogwyr - ac yn bwysicach y chwaraewyr - yn credu y gallan nhw ennill.
Y tro hwn fe all Cymru fynd gam yn nes at fod yn bencampwyr byd.
Cymru v Ffrainc - Yr hanes
Chwaraewyd 90
Cymru'n ennill 44; Ffrainc yn ennill 43; Cyfartal 3.
Buddugoliaeth fwyaf:
Cymru: 47-5 yn 1909
Ffrainc: 51-0 yn 1998