Arthur Picton
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Cyngor rheolwr Bryncoch i Warren Gatland

14 Hydref 2011 Diweddarwyd 08:44 BST

Ar raglen Post Cynta BBC Cymru ddydd Gwener fe wnaeth un o "reolwyr gorau Cymru" roi gair bach o gyngor i reolwr arall sy'n wynebu tipyn o ddiwrnod yn Seland Newydd ddydd Sadwrn.

Mae Arthur Picton wedi bod yn rheolwr ar Glwb Pêl-droed Bryncoch ers sawl blwyddyn.

Ac er ei fod yn arbenigwr ar gamp arall roedd ganddo dipyn o gyngor i Warren Gatland cyn i Gymru wynebu Ffrainc yn rownd gynderfynol Cwpan y Byd yn Seland Newydd.