Hybu entrepreneuriaid y dyfodol
- Cyhoeddwyd

Mae cynllun i gynorthwyo a meithrin entrepreneuriaid y dyfodol yn cael ei lansio yn Sir Ddinbych ddydd Gwener.
Mae'r rhaglen Llwyddo'n Lleol yn gynllun arloesol sydd wedi ei ddatblygu i feithrin diwylliant o fenter ymysg pobl ifanc ac adfer eu hyder yn y cyfleoedd sydd ar gael i fyw a gweithio yn eu cymunedau lleol.
Bydd y lansiad, sy'n digwydd yn Sinema a Chanolfan Gelfyddydau'r Scala, Prestatyn ar ddydd Gwener Hydref 14 yn cynnwys gweithdai efo pobl ifanc ar gynhyrchu cryno ddisgiau a DVDs yn ogystal â gweithdy modelu 3D 'Mini Me'.
Nod y rhaglen ydi esmwytho cyfnod pontio person ifanc i gyflogaeth neu hunangyflogaeth drwy ddatblygu ac amlygu cyfleoedd gwaith penodedig sydd ar gael.
Menter greadigol
Mae hefyd yn amlygu hunangyflogaeth yn benodol fel opsiwn gyrfa posibl.
Mae'r prosiect yn bartneriaeth gydweithredol rhwng Cynghorau Sir Ddinbych, Conwy, Gwynedd ac Ynys Môn ac mae wedi derbyn cyllid gan Raglen Gydgyfeirio Cronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.
Bydd Llwyddo'n Lleol yn edrych ar ddarparu cyfres o fodiwlau entrepreneuriaeth arloesol sy'n gysylltiedig ag achrediad BTEC, sesiynau ar gynhyrchu syniadau menter greadigol, ysgoloriaeth Llwyddo'n Lleol a chyfres o weithgareddau sy'n sbesiffig i'r prif sectorau targed yn Sir Ddinbych.
Dywedodd y Cynghorydd Morfudd Jones, Aelod Arweiniol y Cabinet dros Bobl Ifanc: "Mae'r cynllun yn targedu pobl ifanc 14-19 oed mewn ysgolion uwchradd ac rydyn ni am anfon neges y gall cymunedau lleol gynnig dyfodol ffyniannus i bobl ifanc o ran cyflogaeth a chyfleoedd i ddod yn hunangyflogedig.
"Bydd y cynllun yn Sir Ddinbych yn targedu'r sectorau twf yn arbennig yn y sectorau iechyd a gofal, croeso, twristiaeth, adwerthu, y sector greadigol ac amgylchedd cynaliadwy".
Mae'r cynllun yn gobeithio atgyfnerthu dealltwriaeth a gwybodaeth pobl ifanc o fenter a mentergarwch a herio canfyddiadau
Hefyd bydd y cynllun yn hyrwyddo ardaloedd gwledig sy'n gallu cynnig cyfleoedd i bobl ifanc ac atgyfnerthu polisïau sy'n gysylltiedig â Chynllun Mawr Sir Ddinbych a Chynllun Gweithredu Entrepreneuriaeth Ieuenctid Llywodraeth Cymru.
Straeon perthnasol
- 5 Gorffennaf 2011
- 6 Mehefin 2011