Prosiect anabledd yn cael £1 miliwn
- Cyhoeddwyd

Mae elusen wedi rhoi bron i £1 miliwn i waith ymchwil sy'n astudio hanes anabledd a diwydiant.
Bydd yr ymchwil yn cael ei wneud gan brifysgolion Abertawe, Aberystwyth, Northumbria a Strathclyde.
Nod y prosiect ar ran y Wellcome Trust yw cynhyrchu nifer o lyfrau ac erthyglau, yn ogystal â thudalen ar y we o ddata ystadegol.
Bydd yr ymchwil, a elwir yn 'Anabledd a Chymdeithas Ddiwydiannol: Hanes Diwylliannol Cymharol o Feysydd Glo Prydeinig', yn hoelio sylw ar y modd y mae diwydianeiddio wedi llywio canfyddiadau a phrofiadau anabledd rhwng 1780 a 1948.
Bydd Dr Steven Thompson o Brifysgol Aberystwyth yn rhan o'r tîm a arweinir gan Yr Athro Anne Borsay, ac a gefnogir gan Dr David Turner, y ddau o Brifysgol Abertawe, yn y prosiect £972,501 a fydd yn weithredol rhwng Hydref 2011 a Medi 2016.
Meysydd glo
Bydd y rhaglen yn cynnwys sioe deithiol, gweithdy ar gyfer gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol, ac arddangosfa ar anabledd yn y meysydd glo yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe.
Dywedodd Dr Thompson, "Mae hwn yn brosiect cyffrous ac uchelgeisiol yr ydym yn gobeithio y bydd yn gwneud cyfraniad pwysig i'n dealltwriaeth o anableddau yn y gymdeithas gyfoes.
"Rydym yn bwriadu canolbwyntio ar un o'r diwydiannau mwyaf eiconig ac yn wir niweidiol o'r chwyldro diwydiannol gan ddangos sut y cafodd anableddau eu deall a'u profi yn ystod y cyfnod hwn o fywyd Prydeinig.
Dadleuon cyfoes
Bydd panel pobl anabl yn ymgynnull wyth gwaith yn ystod y prosiect er mwyn sicrhau y caiff yr ymchwil a'r gwaith o ymgysylltu â'r cyhoedd eu llywio gan bersbectif pobl anabl.
Dywedodd Dr Turner: "O ran pobl anabl heddiw, bydd canfyddiadau'r prosiect yn herio dealltwriaeth o anabledd trwy ddangos bod agweddau a pholisïau yn cael eu creu yn gymdeithasol, ac felly yn agored i newid.
"Bydd y prosiect hefyd yn cyfrannu at ddadleuon cyfoes ynglŷn â chymorth lles a'r gallu i weithio, drwy amlygu rôl newidiol ffactorau cymdeithasol, gwleidyddol a meddygol o ran pennu pwy sy'n gymwys am gymorth."
Straeon perthnasol
- 12 Medi 2011
- 23 Awst 2011
- 5 Gorffennaf 2011