Ceisio ymdopi gyda'r toriadau
- Cyhoeddwyd

Mae bron 12 mis ers i Lywodraeth San Steffan gyhoeddi Adolygiad Gwariant.
Yn ystod y cyfnod hwn mae gwasanaethau cyhoeddus wedi ceisio ymdopi â sefyllfa gwariant gwbl wahanol i'r degawd blaenorol.
Mae adroddiad y Swyddfa Archwilio yn asesu sut y mae'r sector gyhoeddus yng Nghymru yn ymdopi gyda'r toriadau.
Does dim dwywaith fod y sefyllfa yn anodd.
Y prif bennawd yw'r un sy'n amcangyfrif y bydd 21,000 yn llai o swyddi yn y sector gyhoeddus erbyn 2014-15.
Ar hyn o bryd mae 340,000 sy'n cael eu cyflogi yn y sector gyhoeddus yng Nghymru.
Gwasgu'r sector
O ran pobl sy'n cadw eu swyddi fe fydd yna fwy o bwysau o ran ceisio cadw'r safonau.
Yn ôl asesiad y Swyddfa Archwilio, bydd y gwir ergyd o ran colli swyddi rhwng 2013 a 2015.
Mae'r Swyddfa Archwilio wedi dweud y bydd y pwysau ar y sector gyhoeddus yn sicr o gael effaith ar y sector breifat - hynny oherwydd bod economi Cymru yn ddibynnol iawn ar y sector gyhoeddus.
Y cwestiwn mawr yw faint o effaith fydd newid mor sylfaenol ar economi Cymru.
Bydd nifer yn gofyn ai hon fydd yr allwedd i sicrhau mwy o gydbwysedd rhwng y sector gyhoeddus a'r sector breifat yng Nghymru.
Heblaw am y toriadau bydd adroddiad heddiw yn rhoi sylw mawr i iechyd.
Mae'r Swyddfa Archwilio wedi rhybuddio y bydd amser caled.
Hyd yn oed ar ôl ystyried yr arian ychwanegol sydd wedi ei glustnodi ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd yng nghyllideb ddrafft yr wythnos diwethaf mae'r gwasanaeth yn wynebu talcen caled.
Yr amcangyfrif yw yw y bydd yna rhwng £252m a £455m yn llai o arian erbyn 2013-14.
Mae'n werth nodi hefyd fod yr arian ychwanegol - £288miliwn dros dair blynedd - sy'n cael ei grybwyll yn y gyllideb ddrafft yn dod o'r gronfa wrth gefn.
Yn y gorffennol roedd byrddau iechyd oedd yn myd i ddyled yn gobeithio y byddai'r llywodraeth yn ei chlirio.
Nawr i bob pwrpas mae'r llywodraeth yn rhoi'r arian o flaen llaw.
Ond beth fydd yn digwydd pe bai'r byrddau iechyd yn mynd i drafferthion unwaith yn rhagor erbyn diwedd y flwyddyn ariannol.
Y tro hwn fydd yna ddim arian yn y gronfa wrth gefn.