Cofeb i'r hyfforddwr ffitrwydd Lavern Ritch

  • Cyhoeddwyd
Lavern RitchFfynhonnell y llun, BBC news grab
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd Lavern Ritch ei ddisgrifio fel "Samariad trugarog"

Cafodd Lavern Ritch ei drywanu i farwolaeth gan ddyn yr oedd yn ceisio'i gynorthwyo yn New Jersey yn 2007.

Bu Mr Ritch yn dysgu cannoedd o blant Caerdydd i nofio.

Fe wnaeth ei berthnasau ddadorchuddio cofeb iddo ym mhwll nofio Rhyngwladol Caerdydd ddydd Gwener, gan gynnwys ei dad Louis a ddywedodd fod y teulu yn "falch iawn ohono."

Dywedodd ei fod yn ddiolchgar dros ben i Gyngor Caerdydd am y deyrnged, ac i'r cynghorwyr a wnaeth y gofeb yn bosibl.

"Mae ein teulu yn falch iawn ac mae'n anrhydedd i'r plac gael ei osod yn enw Lavern," ychwanegodd.

Daeth tua 1,000 o bobl i angladd Mr Ritch, o Benarth ym Mro Morgannwg, lle cafodd ei ddisgrifio fel "Samariad trugarog" ac "arwr o Gaerdydd".

Cyngor Caerdydd sydd wedi talu am y gofeb.

Cafodd Robert Davies o New Jersey ei garcharu am 21 a hanner o flynyddoedd ym mis Ebrill eleni am ladd Mr Ritch.

Fe'i cafwyd yn ddieuog o lofruddiaeth ond yn euog o ddynladdiad di-hid ar ôl honni iddo ond geisio amddiffyn ei hun.

Clywodd y rheithgor fod Mr Ritch yn ceisio cynorthwyo Davies ar y pryd.Bydd plac i goffáu hyfforddwr ffitrwydd o Gaerdydd a gafodd ei ladd tra ar wyliau yn America yn cael ei ddadorchuddio mewn pwll nofio.