Nathan Cleverly a Tony Bellew'n barod am yr ornest fawr

Tony Bellew a Nathan Cleverly Image copyright PA
Image caption Bydd Tony Bellew yn herio Nathan Cleverly nos Sadwrn

Dywedodd pencampwr is-drwm Prydain a'r Gymanwlad, Tony Bellew, y byddai'n coroni ei yrfa petai'n cipio teitl y byd oddi wrth y Cymro Nathan Cleverly nos Sadwrn.

Bydd y ddau - sydd heb golli gornest yn eu gyrfaoedd - yn cwrdd yn yr Echo Arena yn ninas enedigol Bellew, Lerpwl.

"Dyma benllanw gwaith oes - 15 mlynedd wedi eu cywasgu i 36 munud," meddai Bellew.

"Fe fyddai'n gwneud beth bynnag sydd ei angen, dyna'r cyfan yr ydw i'n wybod."

Mae Bellew, 28 oed, wedi bod yn ceisio trefnu gornest yn erbyn y Cymro ers dwy flynedd - dyhead ddaeth yn agosach pan enillodd bencampwriaeth interim y byd ym mis Rhagfyr 2010.

Bu bron i'r ornest ddigwydd ym mis Mai cyn i Bellew fethu cyrraedd y pwysau cywir a thynnu'n ôl.

Mae tipyn o ddrwgdeimlad wedi bod rhwng y ddau, a bu'n rhaid eu gwahanu mewn cynhadledd newyddion ym mis Mai.

Y tro hwn, mae Cleverly yn ymddangos wedi ymlacio'n llwyr, ac yn hyderus iawn y bydd yn fuddugol.

"Rwy'n dibynnu ar fy ngreddf ac yn taro beth bynnag dwi'n weld," meddai.

"Dwi ddim yn un am gynllunio'n ormodol.

"Wrth baratoi am yr ornest 'dwi wedi gwylio Tony unwaith yn unig.

"Fe fyddai'n mynd i mewn i'r sgwâr a gwneud beth fyddaf wastad yn ei wneud, a dwi'n gwybod y bydd hynny'n ddigon."

Tony Bellew v Nathan Cleverly: Pencampwriaeth Pwysau Is-drwm WBO y Byd: Echo Arena, Lerpwl: Nos Sadwrn, Hydref 15 am 8:00pm.

Straeon perthnasol