Cyngor Porthmadog: 'Diffyg parch at iaith'
- Cyhoeddwyd

Mae Cyngor Tre Porthmadog wedi penderfynu peidio ag anfon cynrychiolydd i seremoni agor ffordd osgoi oherwydd bod gwahoddiad Llywodraeth Cymru'n uniaith Saesneg.
Ddydd Llun y Gweinidog Trafnidiaeth, Carl Sargeant, sy'n agor y ffordd fydd yn hwyluso'r traffig ym Mhorthmadog, Tremadog a Minffordd ar yr A487.
Mae cynghorwyr tref Porthmadog wedi dweud bod y llythyr yn sarhad.
Fe bleidleisiodd y cyngor o blaid cynnig Y Cynghorydd Elwyn Thomas i gadw draw o'r agoriad swyddogol.
"Mi fyddwn i'n disgwyl i gorff fel Llywodraeth Cymru o bawb ohebu o leia yn ddwyieithog os nad yn gwbl Gymraeg â chorff cyhoeddus neu unigolion Cymraeg eu hiaith," meddai.
Mae disgwyl i rai o'r cynghorwyr sir lleol fod yn bresennol yn yr agoriad.
Ymddiheuro
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn ymddiheuro am y llythyr uniaith Saesneg a'u bod yn bwriadu cysylltu gyda'r rhai dderbyniodd y gwahoddiad i'w sicrhau bod y llywodraeth yn gwbl ymrwymedig i ddiogelu dyfodol tymor hir yr iaith Gymraeg a hyrwyddo ei defnydd.
Dywedodd y cynghorydd fod egwyddor y cyngor yn golygu "na fyddwn ni'n ymdrin â gohebiaeth ddi-Gymraeg corff statudol yng Nghymru."
Un arall gefnogodd y cynnig oedd y Cynghorydd Jean Edwards.
"Os nad ydi'r llywodraeth yn rhoi blaenoriaeth i'r Gymraeg, pa obaith sy 'na?
"Yndi, mae'r ffordd osgoi yn bwysig, mae'r agoriad yn bwysig ond mae'r iaith yr un mor bwysig os nad yn fwy pwysig.
"Mae hon yn un o gadarnleoedd yr iaith Gymraeg a dwi'n teimlo'n gryf iawn."
Fe bleidleisiodd y cyngor 6-5 yn erbyn derbyn y gwahoddiad.
Dywedodd y rhai o blaid derbyn y gwahoddiad eu bod yn siomedig oherwydd y llythyr Saesneg.
'Diffyg parch'
Mae Alwyn Gruffydd, cadeirydd y cyngor, wedi dweud ei fod yn bwriadu ysgrifennu at Mr Sargeant yn diolch am y gwahoddiad ond yn ei wrthod oherwydd "diffyg parch at ein hiaith a'n diwylliant."
Cytunodd y cynghorwyr y dylid anfon llythyr cwyno at Leighton Andrews, y Gweinidog gyda chyfrifoldeb am yr iaith Gymraeg, a'r Comisiynydd Iaith, Meri Huws.
Mae'r cyngor tref wedi ymgyrchu'n galed dros y blynyddoedd i sicrhau ffordd osgoi.
Cafodd y ffordd dair milltir o hyd ei chwblhau saith wythnos yn gynt na'r disgwyl ar gost o £35 miliwn.
Dechreuodd y gwaith yn Ionawr 2010.