Arweinydd newydd i sir

Des Hillman Image copyright BBC news grab
Image caption Honodd Mr Hillman iddo gael ei danseilio gan aelodau ei grŵp ei hun

Mae gan Gyngor Blaenau Gwent arweinydd newydd wedi ymddiswyddiad y cyn-arweinydd, Des Hillman, yr wythnos diwethaf.

Cafodd y Cynghorydd John Mason ei apwyntio'n arweinydd yng nghyfarfod y cyngor ddydd Gwener.

Y Cynghorydd John Taylor yw dirprwy arweinydd y cyngor fydd yn cyfarfod ar Hydref 20 i drafod newidiadau eraill yn eu rheolaeth wleidyddol.

'Pwysau eithafol'

Bydd y rhain yn cynnwys apwyntio tri aelod y grŵp Llafur i'r adran weithredol er y bydd yr adran o hyd o dan reolaeth y grŵp Annibynnol.

Penderfynodd y cyn-arweinydd Mr Hillman, sy'n gynghorydd Annibynnol, ymddiswyddo ar Hydref 7, gan honni iddo gael ei danseilio gan aelodau ei grŵp ei hun sy'n rheoli'r cyngor.

Mae Mr Hillman yn cynrychioli ward Blaenau.

Mewn cyfweliad â rhaglen Dragon's Eye honodd fod yr awdurdod lleol o dan "bwysau eithafol" Gweinidogion Llywodraeth Cymru.

"Rwy'n credu bod y Cynulliad, neu ei Weinidogion - eisiau i'r Blaid Lafur reoli Blaenau Gwent ac maen nhw'n chwilio am unrhyw esgus i wireddu hynny," meddai.

Cythryblus

Mae eleni wedi bod yn gyfnod cythryblus i Gyngor Blaenau Gwent.

Ym mis Mawrth gadawodd Prif Weithredwr Blaenau Gwent ei swydd er mwyn torri costau uwchreolwyr y cyngor.

Roedd hyn yn golygu bod y tîm rheoli corfforaethol yn lleihau o bump i bedwar ac yn sicrhau arbediad o tua £315,000 dros y pum mlynedd nesaf.

Fis diwethaf penderfynodd Llywodraeth y Cynulliad roi gwasanaethau addysg y cyngor yn nwylo dau gomisiynydd.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni'n gwrthod unrhyw honiad bod cynghorau annibynnol yn cael eu targedi gan Lywodraeth Cymru."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.