Gofalwyr yn cael hwb o £550,000
- Cyhoeddwyd

Mae gofalwyr sy'n edrych ar ôl pobl â salwch ac anableddau tymor hir yng Ngogledd Cymru wedi elwa o ddyfarniad o dros hanner miliwn o bunnoedd gan y Gronfa Loteri Fawr heddiw.
Y gred yw bod dros 20,000 o ofalwyr cofrestredig yn Sir y Fflint yn unig.
Bydd dyfarniad o £555,081 i North East Wales Carers Information Services (NEWCIS) bellach yn eu galluogi i redeg prosiect newydd i greu buddion ar gyfer gofalwyr dros 18 oed yn Sir y Fflint sy'n gofalu am rywun â salwch neu anabledd tymor hir.
Bydd yn darparu gwasanaethau gofal dydd, gofal seibiant tymor byr ac mewn argyfwng, eiriolaeth gofalwyr a grwpiau cefnogi gofalwyr arbenigol.
'oriau anghymdeithasol'
Bydd ffocws hefyd ar ofalwyr sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig gwledig, yn enwedig ar arfordir Sir y Fflint.
Un person yn ei dyled i NEWCIS diolch i'w cefnogaeth yw Di Weed, 57 oed o Ben-y-ffordd ger Bwcle.
Mae Di wedi gofalu am ei thad, sy'n dioddef o glefyd Alzheimer, ers dros wyth mlynedd, a gwnaeth hefyd ofalu am ei mam nes y bu farw fis Tachwedd y llynedd.
Heb gefnogaeth gan NEWCIS, mae Di yn honni y byddai wedi "chwalu" o dan y straen.
"Roeddwn eisoes yn gofalu am fy nhad ac yn gweithio oriau anghymdeithasol i fedru gwneud popeth," meddai.
"Pan gafodd fy mam ei tharo gan strôc, roedd yn amhosib i mi wneud y ddau beth a bu'n rhaid i mi roi'r gorau i'r gwaith.
"Mi fyddai wedi bod yn amhosib i mi fod yn ofalwr am gymaint o amser heb gefnogaeth NEWCIS.
"Er eich bod yn gyfyngedig iawn o ran yr hyn y gallwch ei wneud pan fyddwch yn gofalu am rywun, mae NEWCIS yn eich galluogi i fwrw 'mlaen ag agweddau arferol ar fywyd.
"Rhoddodd gyfle i mi ennill cymwysterau cyfrifiadurol ac maent yn cynnal ystod o ddosbarthiadau dysgu gydol oes wahanol."
'lleddfu unigedd'
Dywedodd Claire Sullivan, Cydlynydd Gwasanaethau Gofalwyr yn NEWCIS: "Mae'n gyffrous iawn ac mae'r ariannu wedi creu gwefr o gyffro drwy gydol ein mudiad a'r gymuned ofalwyr.
"Bydd y prosiect yn ein galluogi i adnabod gofalwyr sydd wedi bod yn gofalu ers tro, a gweithio gyda nhw i leddfu'r unigedd a rhoi gwasanaethau newydd iddynt.
"Mae hyn yn rhoi cyfle i ni gyflwyno gwasanaeth penodedig ar gyfer hyd yn oed yn fwy o ofalwyr sy'n gofalu am rywun sydd â chyflwr hir dymor.
"Rydym mewn cyswllt â thua 3,500 o ofalwyr a gobeithiwn gefnogi hyd yn oed yn fwy nawr."