Llys: Cerddor yn wynebu cyhuddiad arall
- Cyhoeddwyd
Mae athro sydd wedi'i gyhuddo o dreisio yn wynebu cyhuddiad o geisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder.
Ddydd Gwener penderfynodd barnwr y bydd rhaid i John Grindell, 47, o Gefn-y-bedd gael ei gadw yn y ddalfa.
Mae Grindell, sydd ar hyn o bryd wedi ei wahardd o'i swydd fel athro cerdd ym Mhenley ger Wrecsam, wedi'i gyhuddo o dreisio merch 14 oed ym mis Awst y llynedd.
Y disgwyl yw i'r treial ddechrau yn y flwyddyn newydd.
apêl
Ond yn gynharach yr wythnos hon ymddangosodd Grindell gerbron Llys Ynadon Wrecsam ar gyhuddiad o wyrdroi cwrs cyfiawnder.
Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth ond apeliodd yr erlyniad yn erbyn y penderfyniad yn syth.
Golygai hyn y bu rhaid i Grindell gael ei gadw yn y ddalfa tan i'r barnwr, Rhys Rowlands, penderfynu ategu apêl yr erlyniad yn Llys y Goron Y Wyddgrug ddydd Gwener.
Bydd Grindell yn aros yn y ddalfa tan iddo ymddangos gerbron gwrandawiad rhagarweiniol ynglŷn â'r cyhuddiad newydd ar Hydref 21.
Mae Grindell yn gwadu treisio'r ferch a chyhuddiad arall o gyffwrdd â'r ferch yn amhriodol, gan gynnwys cyfathrach.
Pan ymddangosodd Grindell, sy'n briod gyda dau o blant, gerbron ynadon Y Fflint mewn llys yn y Wyddgrug mewn gwrandawiad ym mis Ebrill eleni fe gafodd ei ddisgrifio fel cerddor, darlledwr ac athro mawr ei barch.
Y pryd hynny, cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth ar yr amod ei fod yn byw yn ei gartref yng Nghefn-y-bedd rhwng yr Wyddgrug a Wrecsam.
Gorchmynnodd y barnwr hefyd na ddylai gysylltu gyda thystion yr erlyniad yn uniongyrchol nac yn anuniongyrchol mewn unrhyw fodd.