Ched Evans yn gwadu cyhuddiad treisio

Ched Evans Image copyright Other
Image caption Mae Ched Evans wedi ei ryddhau ar fechniaeth

Mae pêl-droediwr Cymru a Sheffield United Ched Evans o Millhouse Green, Swydd Efrog wedi gwadu cyhuddiad o dreisio.

Ymddangosodd yr ymosodwr 22 oed gafodd ei eni yn Llanelwy o flaen Llys y Goron Caernarfon ddydd Gwener.

Mae'r pêl-droediwr Clayton McDonald, 22 oed, o Marys Gate, Crewe, hefyd wedi gwadu cyhuddiad o dreisio'r ddynes yn y Premier Inn yn Rhuddlan, ger Y Rhyl, ar ddiwedd mis Mai.

Dywedodd y Barnwr Merfyn Hughes QC y bydd y ddau yn cael eu rhyddhau ar fechnïaeth i ymddangos gerbron Llys y Goron ddechrau mis Mawrth.

Mae disgwyl i'r achos bara am saith niwrnod.

Mae McDonald yn amddiffynnwr gyda Port Vale.

Straeon perthnasol