Miloedd yn gwylio'n y Stadiwm
- Cyhoeddwyd

Mae dros 60,000 o gefnogwyr rygbi yn gwylio Cymru yn rownd gynderfynol Cwpan y Byd ar sgriniau mawr yn Stadiwm y Mileniwm - mwy nag sy'n gwylio'r gêm yn Seland Newydd yn fyw.
Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi ymuno â nhw gan ei ddisgrifio fel "y cyfle gorau ers cenhedlaeth" i hybu Cymru o amgylch y byd.
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru Cheryl Gillan y byddai'r tîm yn dychwelyd fel arwyr.
Agordodd drysau'r Stadiwm am 7:30am cyn y gic gyntaf am 9:00am.
Roedd y tocynnau i ymuno gyda'r parti yn y Stadiwm yn rhac ac am ddim yn dilyn y fuddugolaieth yn erbyn Iwerddon y penwythnos diwethaf.
Initially, 25,000 tickets were released, but organisers released tens of thousand more when the huge demand became clear.
It is the first time Wales have reached the semi-finals since 1987 and, if successful, would be their first time in the final.
The WRU said a giant 100sq m screen, which it believes to be the largest mobile screen in the world, is in place on the pitch along with the stadium's two permanent large screens.
Yn wreiddiol fe ryddhawyd 25,000 o docynnau ar gyfer y digwyddiad ond fe ddaeth hi'n amlwg yn fuan na fyddai'n hynny'n ddigon i ateb y galw.
Clybiau a thafarnau
Bydd y gêm hefyd i'w gweld wrth gwrs mewn clybiau a thafarnau ar draws Cymru sydd yn agor yn gynnar.
Ychwanegodd Carwyn Jones fod y tîm wedi bod yn lysgenhadon gwych i Gymru ar y cae ac oddi arno.
"Nid peth chwaraeon yn unig yw hwn," meddai, "mae'n gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i Gymru ar lwyfan rhyngwladol.
"Mae'n rhoi sylw i ni na all arian ei brynu.
"Mae fy neges i'r byd yn glir. Mae Cymru yn wlad fach ond yn gallu cystadlu gyda'r gorau.
"Mae wlad wych i fyw, astudio a gweithio ynddi."