Arwrol: Cymru 8-9 Ffrainc

  • Cyhoeddwyd
Tacl Sam WarburtonFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,
Gwelodd Sam Warburton y cerdyn coch am y dacl yma ar Vincent Clerc

Y darogan gan y gwybodusion oedd y byddai hon yn gêm agos.

Doedd neb wedi rhagweld y byddai'r canlyniad - i bob pwrpas - yn cael ei benderfynu wedi 18 munud.

Ond dyna pryd y penderfynodd y dyfarnwr Alain Rolland fod tacl gan gapten Cymru, Sam Warburton, yn beryglus ac yn haeddu cerdyn coch.

Byddai curo Ffrainc gyda 15 dyn yn dasg anodd - roedd gwneud hynny gyda 14 dyn am dros dri chwarter y gêm yn amhosib yn yr oes fodern.

Dim ond o drwch blewyn yr oedd hynny'n wir.

Ail ergyd

Dyma oedd yr ail ergyd i obeithion Cymru gan fod y prop Adam Jones eisoes wedi gorfod gadael y maes gydag anaf.

Cyn y cerdyn roedd Cymru wedi cael dechrau digon derbyniol, ac roedd James Hook wedi eu rhoi ar y blaen gyda chic gosb.

Yn fuan wedi'r cerdyn tyngedfennol daeth Morgan Parra a'r Ffrancwyr yn gyfartal cyn eu rhoi ar y blaen gyda chic arall at y pyst cyn yr egwyl.

Roedd amddiffyn arwrol gan Gymru wedi rhwystro'r Ffrancwyr rhag sgorio cais gan gadw'r sgôr i lawr i 6-3 ar yr egwyl.

Ychwanegodd Parra gic gosb arall yn gynnar yn yr ail hanner i ymestyn y fantais.

Ond megis dechrau oedd y ddrama.

Cais

Gyda 58 munud wedi chwarae fe gasglodd Mike Phillips y bel cyn gwibio drwy fwlch yn amddiffyn y Ffrancwyr a chroesi am gais.

Er i'r eilydd Stephen Jones fethu gyda'r trosiad, roedd Cymru yn ôl o fewn pwynt.

Gyda'r amddiffyn coch mor gadarn ag erioed, yr unig gwestiwn oedd a fyddai cyfle yn dod i ennill y gêm i Gymru.

Daeth cyfle gyda chic gosb o'r llinell hanner gyda phum munud yn weddill o'r 80, ond fe ddisgynnodd ergyd Leigh Halfpenny fodfeddi yn brin o'r nod.

Am y munudau oedd yn weddill roedd hi'n anodd barnu pa un o'r ddau dîm oedd un yn brin, ond pan ddaeth y chwiban olaf roedd Cymru allan o Gwpan y Byd.

Ond does dim amheuaeth mai Cymru oedd arwyr y diwrnod yn Auckland.