Seintiau'n cloffi - Llanelli yn ail

Uwchgyngrhair Cymru Image copyright Not Specified

Ar ôl i ddau geffyl blaen Uwchgynghrair Cymru fethu cyfle i ymestyn eu mantais ar frig y tabl nos Wener, fe fanteisiodd Llanelli ar hynny brynhawn Sadwrn.

Nos Wener roedd y ddau oddi cartre' - Castell-nedd ar daith i Aberystwyth tra bod y Seintiau Newydd yn teithio i'r Bala.

Dechreuodd y ddau yn dda - Paul Fowler yn sgorio wedi 15 munud i roi Castell-nedd ar y blaen yng Nghoedlan y Parc, a goliau gan Matty Williams a Craig Draper yn rhoi dwy gol o fantais i'r Seintiau.

Ond dyna pryd y dechreuodd pethau fynd o'i le i'r ddau.

Wedi 36 munud fe sgoriodd Lewis Codling i Aberystwyth i ddod â nhw'n gyfartal.

Er i Ricky Evans weld cerdyn coch i'r tîm cartref, gorffennodd y gêm yn Aberystwyth 1-1 gan adael Castell-nedd yn siomedig.

Roedd mwy o syndod yn y Bala.

Daeth dwy gol o fewn tri munud i'r tîm cartref - Steve Brown a Mark Jones y sgorwyr.

Dyna oedd diwedd y sgorio yn y gêm yma hefyd, ac fe orffennodd hi'n 2-2.

Manteisio

Ddydd Sadwrn roedd y gêm fawr ar Barc Stebonheath wrth i Lanelli groesawu'r pencampwyr o Fangor, a'r ymwelwyr aeth ar y blaen wedi saith munud gyda gol gan Peter Hoy.

Fel yna yr arhosodd hi tan chwarter awr cyn y diwedd, ond yna fe gafodd Llanelli gic o'r smotyn, ac fe rwydodd Rhys Griffiths i unioni'r sgor.

A Griffiths oedd arwr Llanelli bedwar munud cyn y chwib olaf wrth sgorio'r gol fuddugol i ddod â Llanelli'n ail ar sodlau'r Seintiau.

Yn y gemau eraill ddydd Sadwrn, roedd yna fuddugoliaethau i'r Drenewydd, Port Talbot a Phrestatyn.

Canlyniadau

Nos Wener:-

Aberystwyth 1-1 Castell-nedd

Bala 2-2 Y Seintiau Newydd

Dydd Sadwrn :-

Llanelli 2-1 Bangor

Y Drenewydd 4-2 Caerfyrddin

Port Talbot 2-1 Airbus UK Brychdyn

Prestatyn 3-1 Lido Afan

Tabl Uwchgynghrair Corbett Sports

Gemau Gwahaniaeth Goliau Pwyntiau
1. Y Seintiau Newydd 11 +16 26
2. Llanelli 11 +20 25
3. Castell-nedd 11 +15 25
4. Bangor 11 +8 22
5. Bala 11 +5 20
6. Prestatyn 11 +5 17
-----------------------------------------------------------------------------------------
7. Port Talbot 11 -3 14
8. Airbus UK Brychdyn 11 -8 8
9. Lido Afan 11 -12 8
10. Aberystwyth 11 -10 7
11. Drenewydd 11 -20 9
12. Caerfyrddin 11 -16 6