Norwich 3-1 Abertawe

Clwb Pêl-droed Abertawe Image copyright Other

Roedd Norwich ac Abertawe yn chwarae yn y bencampwriaeth y tymor diwethaf, ac yn y ddwy gêm rhyngddynt y tîm cartref enillodd.

Roedd hi'n ymddangos o'r dechrau y byddai'r rhediad yna yn parhau ddydd Sadwrn wrth i Norwich sgorio yn gynnar iawn - Anthony Pilkington yn rhwydo wedi dim ond 50 eiliad.

O fewn deng munud roedd yr un yn ddwy wrth i Russell Martin sgorio ail i'r Canaries.

Ond fe frwydrodd tîm Brendan Rodgers yn ôl i'r gêm.

Fe sgoriodd Danny Graham ei gol gyntaf i Abertawe yn eu gem ddiwethaf, ac wedi 12 munud o chwarae fe gafodd ei ail i'r clwb i haneru mantais Norwich.

Felly yr arhosodd hi tan yr ail hanner, ond pan gafodd Pilkington ei ail gol yn y gêm, roedd yr ysgrifen ar y mur i'r Elyrch.

Canlyniad :-

Norwich 3-1 Abertawe

Tabl Uwchgynghrair Barclays

Gemau Gwahaniaeth Goliau Pwyntiau
1. Manchester City 8 +21 22
2. Manchester United 8 +19 20
3. Chelsea 8 +11 19
4. Newcastle 8 +5 16
-----------------------------------------------------------------------------------------
13.ABERTAWE 8 -5 8