Caerdydd 2-2 Ipswich
- Cyhoeddwyd

Fe ddaeth un darn o hanes ac un darn o elyniaeth leol i geisio difetha diwrnod Caerdydd yn y bencampwriaeth ddydd Sadwrn.
Ipswich oedd yr ymwelwyr i Stadiwm Dinas Caerdydd, ac o fewn ugain munud roedd yr Adar Gleision ar y blaen diolch i gol gan Rudy Gestede.
Ond mae Ipswich yn dîm anodd i'w curo y tymor hwn, a phan ddaethon nhw'n gyfartal roedd y sgoriwr yn hen ddraenen yn ystlys Caerdydd.
Cyn ymosodwr Abertawe, Jason Scotland, oedd y dyn oedd yn dathlu ar ôl sgorio yn erbyn ei hen elynion.
Ond roedd gwaeth i ddod i Gaerdydd yn yr ail hanner.
Chwe munud wedi'r egwyl fe aeth Caerdydd ar ei hol hi, ac roedd y sgoriwr y tro hwn yn fwy cyfarwydd fyth.
Cyn ffefryn y ffyddloniaid, Michael Chopra, a'i cafodd hi.
Yn ffodus i Gaerdydd roedd digon o amser yn weddill, ac fe ddaeth gol arall i'r tîm cartref.
Pan gafodd Caerdydd gig o'r smotyn wedi 72 o funudau, Peter Whittingham gamodd yn hyderus i gipio pwynt i'r Adar Gleision.
Canlyniad :-
Caerdydd 2-2 Ipswich