Sadwrn cymysg i Wrecsam a Chasnewydd

Wrecsam a Chasnewydd Image copyright bbc

Ar brynhawn cymysg i'r ddau dîm o Gymru yn Uwchgynghrair y Blue Square, fe arhosodd Wrecsam ar frig y tabl.

Sgoriodd Nat Knight Percival ddwywaith i'r Driegiau mewn buddugoliaeth ysgubol o 4-0 yn erbyn Stockport.

Andy Morrell a Jake Speight gafodd y ddwy gol arall.

Roedd Casnewydd yn obeithiol yn dilyn y fuddugoliaeth yn Fleetwood ganol wythnos, ond siom gafodd y cefnogwyr ar eu tomen eu hunain.

Tamworth oedd yr ymwelwyr i Barc Sbytty, ac fe aeth yr ymwelwyr ar y blaen gyda gôl gan Kieron St Aimie yn fuan wedi'r egwyl.

Dyblwyd y fantais ar yr awr gan Iyseden Christie, a gôl gysur yn unig oedd cynnig hwyr Darryl Knights i dîm Justin Edinburgh.

Canlyniad :-

Casnewydd 1-2 Tamworth

Tabl Uwchgynghrair Blue Square Bet

Gemau Gwahaniaeth Goliau Pwyntiau
1. WRECSAM 16 +18 35
2. Fleetwood 16 +7 31
3. Luton 16 +16 30
4. Efrog 16 +16 30
5. Gateshead 16 +3 30
-----------------------------------------------------------------------------------------
22. CASNEWYDD 16 -10 11
23. Alfreton 16 -22 10
24. Caerfaddon 16 -16 7