Cleverly'n dal yn bencampwr byd

  • Cyhoeddwyd
Nathan Cleverly a Tony BellewFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,
Cleverly gafodd y gorau o bethau o drwch blewyn

Cadwodd y Cymro Nathan Cleverly ei deitl WBO is-drwm y byd gyda buddugolaieth dros Tony Bellew yn Lerpwl nos Sadwrn.

Mewn gornest agos, Bellew ddechreuodd orau, ond erbyn canol yr ornest roedd Cleverly wedi dod o hyd i ryddm, ac fe gafodd lwyddiant gyda sawl ergyd.

Roedd hi'n ornest anodd ei dyfarnu, gydag un o'r tri yn dweud ei bod hi'n gyfartal, ond y ddau arall yn rhoi'r fuddugoliaeth i Cleverly yn glir.

Ond dyma oedd diwrnod anoddaf Cleverly fel pencampwr ac er nad yw wedi colli mewn 23 gornest, fe all Bellew ddisgwyl ail gynnig.

Roedd Cleverly wedi gobeithio y byddai buddugoliaeth yn ei alluogi i gael gornest yn erbyn Bernard Hopkins i unioni teitlau'r WBO a WBC, ond fe golloff yr Americanwr yn oriau man y bore i Chad Dawson yn Los Angeles.