Stadiwm y Mileniwm i agor unwaith eto
- Cyhoeddwyd

Bydd Stadiwm y Mileniwm yn agor unwaith eto fore Gwener ar gyfer y gêm rhwng Cymru ag Awstralia i benderfynu pwy fydd yn drydydd yng Nghwpan y Byd.
Daeth dros 61,000 i'r stadiwm fore Sadwrn i weld Cymru yn colli i Ffrainc yn y rownd gynderfynol yn Seland Newydd - mwy nag oedd yn stadiwm Eden Park yn Auckland i wylio'r gêm go iawn.
Yn union fel yn 1987 yn y Cwpan Byd cyntaf i gael ei gynnal, bydd Cymru yn wynebu Awstralia am y trydydd safle tra bod Seland Newydd a Ffrainc yn y rownd derfynol.
Yn 1987, Cymru oedd yn drydydd diolch i drosgais ym munudau olaf y gêm gan Adrian Hadlee a Paul Thorburn.
Yn y rownd gynderfynol arall o gystadleuaeth 2011 ddydd Sul, Seland Newydd oedd yn fuddugol yn erbyn Awstralia o 20-7.
Cefnogi
Dywedodd Gerry Toms, rheolwr cyffredinol Stadiwm y Mileniwm:
"Ein bwriad yw agor unwaith eto. Rydym am gefnogi'r bois, a gobeithio bydd torf arall yma ddydd Gwener."
Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, fod perfformiad Cymru yn y rownd gynderfynol yn un dewr, ac fod y tîm wedi "codi ysbryd y genedl i lefel newydd gyda'r perfformiadau".
Mae trefniadau wrthi'n cael eu gwneud am ddathliad swyddogol i groesawu carfan Cymru adref o Seland Newydd.
Datgelodd arweinydd Cyngor Caerdydd, Rodney Berman, fod swyddogion yn trafod gydag Undeb Rygbi Cymru a thîm digwyddiadau llywodraeth Cymru am y posibilrwydd o drefnu digwyddiad arbennig.
Dywedodd llefarydd ar ran llywodraeth Cymru: "Rydym ar hyn o bryd yn ystyried y ffordd fwyaf priodol o gydnabod llwyddiant tîm rygbi Cymru yng Nghwpan y Byd."
Bydd yr ornest ddydd Gwener yn dechrau am 8:30am amser Cymru.