Cerbyd yn taro siop - dau wedi'u hanafu
- Cyhoeddwyd
Cafodd dau berson eu hanafu yn dilyn gwrthdrawiad yng nghanol dinas Abertawe ddydd Sul.
Roedd dau gar, bws a lori sgips yn rhan o'r gwrthdrawiad, ac fe wnaeth un o'r cerbydau daro i mewn i siop.
Cafodd Ffordd Rhydychen ei chau wedi i'r gwasanaethau brys gael eu galu tua 10:13am fore Sul.
Roedd chwech o bobl yn teithio ar y bws, ac fe gafodd dau ohonynt driniaeth am fan anafiadau.
Cadarnhaodd Heddlu'r De fod yr adeilad yn cynnwys eiddo masnachol a thŷ, ond roedden nhw'n gwrthod cadarnhau adroddiad mai'rbws a darodd yr adeilad.