Undeb yn poeni am gau pwerdy
- Published
Mae gorsaf bŵer y Barri ar fin cau gyda 60 o swyddi'n cael eu colli, medd undeb Prospect.
Mae cwmni ynni Centrica wedi dweud wrth eu staff am gynlluniau i gael gwared â hyd at 100 o'u 285 o swyddi mewn pwerdai drwy gau safleoedd yn y Barri a King's Lynn, Norfolk, erbyn Mehefin 2012.
Rhybuddiodd Mike McDonald o undeb Prospect y gallai hyn arwain at brisiau uwch i gwsmeriaid.
Dywedodd y cwmni y byddai'r dechrau ymgynghori ym mis Tachwedd cyn gwneud penderfyniad terfynol yn gynnar y flwyddyn nesaf.
Cafodd gorsaf bŵer y Barri ei agor gan gwmni AES ym mis Medi 1998 cyn cael ei brynu gan Centrica yng Ngorffennaf 2003 am £39.7 miliwn.
'Penderfyniad anodd'
Dywedodd Sarwjit Sambhi, cyfarwyddwr cynhyrchu ynni Centrica, fod prisiau cynyddol nwy a llai o alw am y cynnyrch wedi gadael y cwmni gyda gormod o allu cynhyrchu.
"Mae ein gorsafoedd pŵer hŷn a llai effeithlon yn wynebu amgylchiadau economaidd heriol dros ben o ganlyniad i brisiau nwy uchel," meddai.
"Gan nad ydym yn rhagweld y bydd y sefyllfa'n gwella yn y dyfodol agos, rydym yn edrych ar opsiynau i'n gweithfeydd cynhyrchu gan gynnwys y Barri.
"Bydd y Barri'n dal i gynhyrchu i mewn i'r flwyddyn nesaf ac fe fydd yn gwneud cais am gytundeb i ddarparu ynni brig - fe fyddai llwyddo i gael y cytundeb yn achub y safle.
"Ond os na fydd yn llwyddo mae'n bosib y bydd rhaid gwneud y penderfyniad anodd i gau'r pwerdy'r flwyddyn nesaf.
"Rydym yn ymwybodol fod hwn yn amser ansicr i staff ac rydym yn sicrhau eu bod yn cael y gefnogaeth y maent ei angen nawr ac yn y dyfodol."
Sgiliau gwerthfawr
Dywedodd Mike McDonald o undeb Prospect y byddai cau pwerdai yn newyddion drwg i gwsmeriaid ac i'r gweithwyr fydd yn colli eu gwaith.
Dywedodd: "Mae strwythur y marchnadoedd ynni ar hyn o bryd yn golygu nad oes unrhyw gymhelliad economaidd i Centrica gadw gorsafoedd pŵer nwy ar agor.
"Ond gyda nifer o orsafoedd glo yn cau rhwng nawr a diwedd 2015, mae siawns go dda y bydd llawer mwy o alw am y cynnyrch, gan adael Prydain yn wynebu prisiau llawer uwch mewn cyfnod lle mae prisiau trydan eisoes yn uchel ofnadwy."
Galwodd Mr McDonald ar Adran Ynni a Newid Hinsawdd (DECC) y llywodraeth yn San Steffan i ymyrryd ac atal colli'r swyddi yma.
"Oherwydd strwythur aneffeithiol y farchnad, bydd ein haelodau yn colli eu gwaith, bydd y wlad yn colli sgiliau technegol gwerthfawr, ac o 2015 fe fydd prisiau ynni yn codi i lefelau uwch nag erioed.
"Rydym yn gobeithio y bydd DECC a Centrica yn ystyried dewisiadau eraill fydd yn cadw'r sgiliau ac arbenigedd technegol mewn lleoedd sy'n diodde' oherwydd crebachu economaidd."