Tân mewn ffatri bapur
- Cyhoeddwyd
Mae criwiau o ddiffoddwyr yn ceisio diffodd fflamau mewn ffatri bapur yn y Rhondda.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 3:43pm brynhawn Sul i stad ddiwydiannol Penygraig.
Mae'r fflamau wedi gafael yn y ffatri, sy'n mesur 130m X 90 m.
Dywedodd Gwasanaeth Tân De Cymru fod pum injan dân wedi mynd i'r safle.