Apêl: Dyn 67 oed wedi ladd

Map o'r ardal Image copyright bbc

Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth wedi i ddyn farw mewn gwrthdrawiad yn Sir Fynwy nos Sadwrn.

Roedd y dyn 67 oed o ardal Trefynwy yn gyrru fan campio fu mewn gwrthdrawiad gyda char BMW ger cyffordd Brynbuga o'r A449 am tua 7:00pm.

Fe gafodd anafiadau difrifol yn y gwrthdrawiad a bu farw o ganlyniad i hynny.

Mae gyrrwr 21 oed y BMW, sydd hefyd o ardal Trefynwy, wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus.

Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw dystion, neu ar bobl sydd â gwybodaeth allai fod o gymorth i'r ymchwiliad i ffonio 01633 838111 neu 01633 642404.