Cyhoeddi enw cerddwr fu farw mewn gwrthdrawiad â char

Tara Mackie Image copyright Other
Image caption Yn ôl ei theulu, roedd Tara Mackie yn "fam, merch a chwaer fendigedig"

Mae Heddlu'r De wedi cyhoeddi enw'r ddynes fu farw mewn damwain ffordd yn Ninas Powys ddydd Sul.

Roedd Tara Mackie, 25 oed o'r Barri, yn cerdded ar hyd Ffordd Caerdydd tua 9.20am pan darodd car du Ford Fiesta yn ei herbyn.

Cafodd ei chludo i Ysbyty Athrofaol Caerdydd ond roedd cadarnhad yn ddiweddarach ei bod wedi marw.

Cafodd gyrrwr y Fiesta, dyn 24 oed, ei arestio yn y fan a'r lle a chafodd ei ryddhau ar fechnïaeth wrth i'r heddlu barhau â'u hymchwiliad.

Fe roddodd teulu Ms Mackie deyrnged iddi.

"Mae mor anodd cyfleu mewn geiriau beth oedd Tara yn ei olygu i ni gyd.

"Roedd hi'n byw bywyd llawn ac yn addoli ei mab oedd yn bopeth iddi," meddai datganiad ar ran y teulu.

Tystion

"Roedd Tara'n fam, merch a chwaer fendigedig ac yn ffrind gorau i bawb. Dy'n ni ddim yn gwybod beth wnawn ni hebddi. Fydd pethau fyth yr un peth."

Mae'r heddlu yn apelio am dystion a allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad neu a oedd yn teithio ar hyd y rhan yna o Ffordd Caerdydd tua 9.20am fore Sul.

Yn benodol, mae swyddogion yn awyddus i siarad â seiclwr a dau o bobl oedd mewn car arian fu'n teithio o'r Barri i gyfeiriad Dinas Powys.

Cafodd y ffordd ei chau am tua phum awr wrth i'r heddlu barhau â'u hymchwiliadau.

Dylai unrhyw un all helpu'r ymchwiliad gysylltu â Heddlu De Cymru ar 01656 655555 neu ffonio Taclo'r Tacle'n ddienw ar 0800 555 111.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.