Cais i agor pwll glo ger safle'r Gleision
- Cyhoeddwyd

Bydd cynghorwyr sir yn penderfynu a ddylid rhoi caniatâd i ddatblygu pwll glo bach yng Nghwm Tawe.
Mae cwmni Western Carbons o Rydaman am agor pwll ar safle pum erw ar Fynydd Allt-y-grug, ger Godre'r Graig yn sir Castell-nedd Port Talbot.
Mae'r safle tua milltir o bwll Y Gleision lle bu farw pedwar o lowyr wedi damwain fis Medi.
Dywed rheolwr gyfarwyddwr cwmni Western Carbons, Jeff McAvoy, y byddai'r safle yn cyflogi tuag wyth o ddynion, gan gynhyrchu glo ar gyfer y diwydiant ffiltro dŵr.
Blaenoriaeth
Mae'r cais cynllunio yn dweud y byddai'r lofa yn cynhyrchu tua 150 tunnell o lo bob wythnos dros gyfnod o 10 mlynedd.
Byddai tair lori 10 tunnell yn cludo o'r safle bob diwrnod.
Dywedodd Cwmni Western Carbons fod diogelwch yn flaenoriaeth.
Yn ogystal â chreu swyddi newydd, dywed y cwmni y byddai'r lofa yn diogelu 23 o swyddi mewn gwaith puro dŵr yn Rhydaman.
Deellir fod y cwmni angen glo o safon arbennig a'u bod yn dweud ei bod yn anodd dod o hyd i gyflenwadau o'r safon angenrheidiol.
Mae'r sir wedi derbyn 27 o lythyrau yn gwrthwynebu'r datblygiad.
Roedd nifer o'r llythyrau yn deillio o'r un cyfeiriad.
Dywed y llythyrau eu bod yn poeni am effaith y datblygiad ar drafnidiaeth ac effaith posib ar gyflenwadau dŵr.
Mae swyddogion cynllunio yn argymell y dylai'r cais gael ei dderbyn ond maen nhw'n gosod nifer o amodau.
Damwain
Yn y cyfamser mae'r gweithgor iechyd a diogelwch wedi cadarnhau fod llythyr rhybudd wedi ei anfon i berchnogion glofeydd drwy Brydain wedi damwain pwll glo'r Gleision.
Dywedodd nad oedd cam o'r fath yn anarferol ar ôl damwain neu ddigwyddiad mawr neu anghyffredin.
Yn ogystal â llythyrau mae nodyn rhybudd wedi ei osod ar safle we'r gweithgor.
Dywed mai pwrpas y rhybudd yw atgoffa perchnogion a rheolwyr o'r camau i'w cymryd rhag mewnlifiadau dŵr.
Mae hefyd yn gofyn i berchenogion gadarnhau bod camau addas ar gael i ddiogelu rhag mewnlifiadau.
Straeon perthnasol
- 14 Hydref 2011
- 12 Hydref 2011
- 17 Hydref 2011