Hoff ganeuon plant ar ffurf cartŵn

Fe fydd hoff ganeuon plant ar grynoddisg Cwm-Rhyd-y-Rhosyn yn troi'n gyfres o gartwnau ar Cyw ar S4C.

Bydd cyfle i wylio yn ogystal a gwrando ar anturiaethau'r Ddau Gi Bach, Jac-y-do a'r Wiwer a'r Llwynog Coch.

Fe gafodd y cartwnau eu lansio ddydd Llun.

Dywedodd Hywel Griffith, Cyfarwyddwr cwmni Griff Films, fod y cartwnau wedi eu seilio ar ganeuon Dafydd Iwan ac Edward Morus Jones yn y 1970au.

"Roedden nhw'n ddelfrydol o ran cael eu hanimeiddio," meddai.

Image copyright Other
Image caption Bydd cyfle i wylio yn ogystal a gwrando ar anturiaethau'r cymeriadau

"Felly rydym wedi cymryd bron iawn yn air am air beth 'roedd Dafydd Iwan yn ei ddisgrifio. Mae'r rhan fwyaf o'r caneuon efo pwtyn bach yn disgrifio rhyw scenario fach yng Nghwm-Rhyd-y-Rhosyn."

Ond dywedodd nad oedd yn bosib defnyddio'r caneuon gwreiddiol.

"Roedd rhai'n rhy hir, eraill yn rhy fyr," meddai.

"Roedd yn biti mawr gorfod ail-recordio ond mae'r hyn mae Gwyneth Glyn a Catrin Finch wedi ei wneud yn hyfryd - dangos parch at y gwreiddiol ond hefyd ychwanegu rhywbeth newydd."

Bydd y 26 cartŵn pum munud yn cael eu darlledu ddwywaith yr wythnos ar Cyw o Hydref 25 ymlaen.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.