Chwilio am gantorion ifanc Cymru

Tim Rhys Evans
Image caption Fe fydd y prosiect newydd yn 'gyfle gwych' i blant Cymru, meddai Tim Rhys Evans

Ar gyfer ei fenter ddiweddara', mae cyfarwyddwr corau Only Men Aloud ac Only Boys Aloud yn chwilio am blant i ymuno â chôr newydd sbon.

Bydd Tim Rhys Evans yn teithio ar draws Cymru yn chwilio am ferched a bechgyn rhwng 9 a 13 oed i fod yn rhan o brosiect Only Kids Aloud.

Bydd y côr 60 o leisiau yn perfformio gyda chwmni opera Mariinsky ar Lwyfan Donald Gordon yng Nghanolfan y Mileniwm y gwanwyn nesaf.

Only Boys Aloud

Bydd Only Kids Aloud yn ymddangos ar y llwyfan fel y Corws Plant ar gyfer perfformiad o Symffoni Rhif 8 gan Mahler, sef y symffoni ar gyfer 1,000 o leisiau, o dan arweiniad Valery Gergiev.

Bydd cerddorfa, corws ac unawdwyr Opera Mariinsky yn ymuno â nhw.

Daw'r fenter ddiweddara' hon wedi i Mr Evans sefydlu côr Only Boys Aloud ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nglyn Ebwy yn 2010.

Mae'r côr bechgyn bellach wedi sicrhau cytundeb tair blynedd gyda chymdeithas Adeiladu'r Principality.

Wrth gyfeirio at brosiect Only Kids Aloud, dywedodd Tim Rhys Evans: "Mae hwn yn gyfle unigryw i blant ledled Cymru, o bob cefndir, gymryd rhan mewn prosiect anhygoel gydag un o arweinyddion a cherddorfeydd rhyngwladol amlycaf y byd.

Image caption Sefydlodd Tim Rhys Evans gôr Only Boys Aloud ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Glyn Ebwy yn 2010

'Cyfle gwych'

"Byddant yn cael cyfle i berfformio ar un o'r llwyfannau rhyngwladol gorau yn Theatr Donald Gordon yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, sef un o'm hoff leoliadau.

"Gan adeiladu ar lwyddiant Only Boys Aloud mae hwn yn gyfle i blant o bob cwr o'r wlad brofi a bod yn rhan o'r cyfle gwych hwn. Bydd hwn yn sicr yn ddigwyddiad arbennig iawn."

Bydd y plant sy'n cael eu dewis yn cael eu hyfforddi gan aelodau o Only Men Aloud ac yn perfformio o dan arweiniad Maestro Gergiev yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar Ebrill 1, 2012.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.