Ymchwiliad i honiadau o ddifrod bwriadol i awyren

  • Cyhoeddwyd
Maes Awyr MonaFfynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o’r llun,
Fe sylweddolodd y peilot nad oedd y cloc cyflymder yn gweithio

Mae'r heddlu'n ymchwilio i honiadau fod rhywun wedi ceisio difrodi awyren breifat mewn maes awyr ar Ynys Môn.

Daw hyn wedi cwyn nad oedd cloc cyflymder yr awyren yn gweithio, o bosib oherwydd bod glud neu resin ar yr offer.

Credir i'r digwyddiad ddod i'r amlwg ym Maes Awyr Mona fis diwetha' ac, yn ôl Heddlu Gogledd Cymru, mae profion fforensig yn cael eu cynnal.

Roedd peilot wedi darganfod ar ôl dechrau ar ei daith nad oedd y cloc cyflymder yn gweithio.

Yn ôl yr Arolygydd Gareth Evans, mae Clwb Hedfan Mona wedi cael eu hannog i fod yn wyliadwrus.

Dywedodd y peilot o Ddyffryn Conwy nad oedd am wneud sylw nes bod ymchwiliad yr heddlu wedi'i gwblhau.

Ar ôl glanio'n ddiogel fe edrychodd y peilot ar yr offer ar ei awyren breifat ARV Super2, ac roedd 'na awgrym fod tiwb wedi ei gau'n fwriadol gyda glud neu resin.

Dywedodd yr Arolygydd Evans: "Mae ein hymchwiliadau yn parhau ac, yn y cyfamser, rydym wedi annog aelodau'r clwb i fod yn wyliadwrus."