E.coli: Meithrinfa yn cau
- Cyhoeddwyd

Mae meithrinfa wedi cau dros dro ar Ynys Môn ar ôl iddi ddod yn amlwg fod plentyn wedi ei heintio ag E.coli 0157.
Mae'r plentyn bellach yn gwella ond mae tri o blant eraill sy'n mynd i'r feithrinfa a dau oedolyn arall yn teimlo'n sâl.
Er hynny does dim un ohonyn nhw'n cael triniaeth yn yr ysbyty.
Mae swyddogion iechyd yn cynnig profion i blant sy'n mynychu'r feithrinfa.
Crampiau
Dywedodd y Dr Chris Whiteside o Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Gall E.coli O157 achosi canlyniadau difrifol mewn plant bach ac am fod y salwch yn gallu lledu'n gyflyn yn ysgolion a meithrinfeydd mae'n bwysig bod bob plentyn yn cael eu profi
"Ni fydd unrhyw blentyn nac aelod o'r staff yn gallu mynychu'r feithrinfa tan iddyn nhw gael dau ganlyniad negyddol i'r prawf dros gyfnod o 48 awr."
Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, gall y salwch amrywio o ddolur rhydd ysgafn i ddolur rhydd gwaedlyd a gall crampiau difrifol yn y stumog gyd-fynd â hyn.
Cymhlethdod difrifol haint E. coli O157 yw syndrom wremig hemolytig (HUS) sy'n digwydd ymysg hyd at 10% o gleifion sydd wedi cael eu heintio â VTEC O157.
Mae'n effeithio'n benodol ar blant ifanc ac ar bobl oedrannus ac, mewn nifer fach o achosion, gall fod yn angheuol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Medi 2011
- Cyhoeddwyd26 Awst 2011
- Cyhoeddwyd19 Awst 2011