Wrecsam a Chasnewydd yn ennill
- Cyhoeddwyd

Casnewydd 3-1 Kettering
Luton 0-1 Wrecsam
Cafodd Casnewydd fuddugoliaeth diolch i hatric Danny Rose yn erbyn naw dyn Kettering.
Roedd trosedd John Dempster ar Sam Foley yn golygu cic o'r smotyn i'r tîm cartref wedi 34 munud ac o fewn munudau roedd yr ymwelwyr i lawr i 10 dyn wedi i Adam Cunnington gael cerdyn coch am drosedd ar Tommy Doherty.
Cafodd John Dempster ei anfon o'r cae ar ôl derbyn dau gerdyn melyn ond llwyddodd gôl geidwad Kettering, Laurie Walker, i arbed ergyd Rose.
Moses Ashikodi gafodd unig gôl yr ymwelwyr ar yr hanner.
Ond daeth Rose yn ei ôl gyda dwy ergyd yn yr ail hanner i sicrhau buddugoliaeth i'r tîm cartref.
Roedd Wrecsam wedi teithio i Luton ar gyfer eu gêm nhw.
Mathias Pogba gafodd unig gôl y gêm wedi 73 munud gan sichrau bod Wrecsam yn parhau i fod ar frig y tabl.
Roedd 'na gyfle yn fuan i Luton gan James Dance a wnaeth orfodi Joslain Mayebi i wneud arbediad gwych.
Cafodd Adrian Cieslewicz a Jake Speight gyfloedd da i Wrecsam hefyd.
Fe ddylai Janos Kovacs fod wedi canfod cefn y rhwyd i'r tîm cartref ond fe aeth y peniad dros y gôl.
Wedi camgymeriad gan Luton fe wnaeth Pogba sichrau'r gôl holl bwysig.