BBC Cymru Fyw

Caerdydd yn colli yn erbyn Peterborough

Published
image copyrightNot Specified

Peterborough 4-3 Caerdydd

Roedd 'na ddigon o goliau yn London Road nos Fercher wrth i Gaerdydd deithio i wynebu Peterborough.

Roedd Yr Adar Gleision ar ei hôl hi ar yr hanner er mai nhw gafodd gôl gyntaf y gêm, Don Cowie yn sgorio wedi chwe munud.

Ond cyn hanner amser llwyddodd y tîm cartref i ganfod y rhwyd ddwywaith o fewn tri munud, George Boyd i ddechrau ac yna Grant McCann.

Yn yr ail hanner Yr Adar Gleision aeth ar y blaen o 3-2 wedi 79 munud gydag Aaron Gunnarsson yn ergydio.

Ond lai na 10 munud yn ddiweddarach cafodd y tîm cartref gic o'r smotyn am lawio a Grant McCann yn llwyddo.

Ac roedd 'na ergyd pellach i'r ymwelwyr wrth i Paul Taylor gael pedwaredd gôl Peterborough wedi 92 munud i sicrhau buddugoliaeth i'r tîm cartref.

Tabl Pencampwriaeth nPower